Os yw eich prawf gwrthgyrff ar gyfer COVID-19 yn bositif, mae'n golygu eich bod yn ôl pob tebyg wedi cael y feirws (coronafeirws newydd) sy'n achosi COVID-19, ac wedi cynhyrchu gwrthgyrff yn ei erbyn. Nid yw prawf gwrthgyrff positif yn dweud wrthych fod gennych imiwnedd, neu na allwch basio'r feirws i eraill petaech yn ei gael eto. Felly, mae'n rhaid i chi barhau i ddilyn cyngor cadw pellter cymdeithasol. Os byddwch chi’n dod i gysylltiad ag achos positif yn y dyfodol neu os oes gennych symptomau, rhaid i chi hunanynysu eto fel y cynghorir. Gellir cael canlyniad prawf gwrthgyrff positif hefyd yn dilyn brechu gyda brechlyn COVID-19. Mae treialon brechu ar y gweill ar hyn o bryd, a bydd rhagor o dystiolaeth ynglŷn â'r ymateb i frechlynnau ar gael maes o law. |