Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n gweithio'n dda i chi a'ch llesiant meddyliol?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi i lansio 'Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddyliol' trwy wefan ac ymgyrch o'r enw Hapus. Y nod yw annog pobl i flaenoriaethu eu llesiant meddyliol a gwneud amser ar gyfer y pethau a all hybu llesiant meddyliol, megis treulio amser gyda theulu a ffrindiau, mynd am dro yng nghefn gwlad neu wrando ar gerddoriaeth. Mae’r pethau y gallwn eu gwneud i hybu ein llesiant yn niferus ac yn amrywiol; yn aml mae’n ymwneud â gwneud amser ar gyfer y pethau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda.

Trwy'r Sgwrs Genedlaethol byddwn yn gofyn i bobl rannu'r hyn sy'n gweithio iddyn nhw. Cyn y lansiad, rydym yn gwahodd rhai pobl i rannu eu profiadau eu hunain. Drwy rannu’r hyn sy’n gweithio’n dda i chi (yn y ffurflen isod), cewch gyfle i annog ac ysbrydoli eraill i ddod o hyd i ffyrdd o hybu eu llesiant meddyliol.

Defnyddiwch y ffurflen ganlynol i ddweud wrthym beth sy'n gwella eich llesiant meddyliol. Sylwch y gall unrhyw beth yr ydych yn ei rannu (ac eithrio eich manylion cyswllt) gael ei ddefnyddio ar wefan Hapus neu at y dibenion eraill yr ydych wedi cydsynio iddynt.