Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau swyddogol yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen di-felanoma yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 30 Mawrth 2023

Mae'r datganiad cyntaf o ystadegau swyddogol ar ganser y croen di-felanoma (NMSC) - y math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru - wedi dangos cynnydd o saith y cant mewn achosion dros gyfnod o bedair blynedd.

Mae digwyddedd NMSC safonedig yn ôl oedran wedi cynyddu 7.1 y cant rhwng 2016 a 2019 – a dyma'r gyfradd uchaf o blith holl wledydd y DU.

NMSC yw'r grŵp o ganserau sydd â'r nifer uchaf o achosion yng Nghymru o bell ffordd.

NMSC oedd 43 y cant o'r holl achosion newydd o ganser yng Nghymru yn 2019, gyda 15,102 o achosion cyntaf, o gymharu â chyfanswm o 20,058 o achosion o'r holl fathau eraill o ganser gyda'i gilydd.

Yn wir, ar ôl addasu ar gyfer y gwahaniaethau o ran oedran, mae'r gyfradd ddigwyddedd ddwy waith a hanner yn uwch na chanser y prostad, sydd â'r gyfradd uchaf nesaf. 

Y prif ffactor sy'n achosi NMSC yw amlygiad hirdymor i'r haul, ac mae'r gyfran uchaf o achosion yn y rhai dros 65 oed.  Mae fel arfer yn datblygu mewn rhannau o'r corff â'r amlygiad mwyaf i'r haul, fel y pen, yr wyneb, croen y pen a'r gwddf.

Yn wahanol i lawer o ganserau eraill, mae llai o risg y bydd NMSC yn lledaenu i rannau eraill o'r corff, er y gall hyn ddigwydd o hyd. Mae hyn yn golygu os ydynt yn cael diagnosis cynnar, gellir trin y rhan fwyaf o achosion yn llwyddiannus.

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r ffigurau newydd hyn yn dangos i ni mor gyffredin yw canser y croen di-felanoma yng Nghymru.

“Mae NMSC ychydig yn anarferol o ran bod ganddo broffil gwahanol i lawer o ganserau eraill – er enghraifft, mae'n fwy cyffredin mewn pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy cefnog, gyda'r digwyddedd mewn pobl sy'n byw yn y pumed o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru 26 y cant yn uwch na phobl sy'n byw yn y pumed mwyaf difreintiedig.

“Mae’n bryder gweld y cynnydd yn niferoedd NMSC ac mae angen rhagor o waith i nodi pam yn union mae hyn yn digwydd, yn enwedig yng Nghymru.

“Mae rhai camau syml y gallwn i gyd eu cymryd i leihau'r risg o ganser y croen.  Er bod treulio amser yn yr awyr agored yn dda i ni, mae gormod o amser yn yr haul yn cynyddu ein risg.

“Rydym yn argymell osgoi'r haul yn ystod rhan boethaf y dydd a chadw babanod allan o olau uniongyrchol yr haul ar bob adeg.

“Gwisgwch het, dillad sy'n gorchuddio eich breichiau a'ch coesau, a sbectol haul os ydych yn yr awyr agored o ganol y bore i ganol y prynhawn (hyd yn oed os yw'n gymylog yn haf) a defnyddiwch eli haul ffactor uchel o leiaf SPF30, yn enwedig os oes gennych groen goleuach.  Yn ogystal, dylai pobl â rhai cyflyrau iechyd fel canser y croen blaenorol, psoriasis, clefyd llid y coluddyn, a HIV, gymryd gofal ychwanegol, gan fod y dystiolaeth yn awgrymu eu bod yn wynebu risg uwch o NMSC.”

“Mae'n well osgoi gwelyau haul i gael lliw haul, os yw hynny'n bosibl.

“Dylech weld eich meddyg teulu os oes gennych farciau ar eich croen sy'n tyfu, yn gwaedu, yn newid o ran ymddangosiad mewn unrhyw ffordd neu byth yn iacháu'n llawn neu'n magu crachen sy'n disgyn ac yna'n tyfu eto. Mae angen i unrhyw fannau du sy'n newid o ran maint, siâp, lliw neu deimlad hefyd gael eu gweld gan eich meddyg teulu.”

Gellir gweld yr adroddiad yma: