Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil newydd yn cofnodi effaith COVID-19 ar natur agored i niwed ac ymateb cefnogol cyflym y Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021 

Mae adroddiad newydd, a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at sut y daeth natur agored i niwed i'r amlwg yng Nghymru yn ystod pandemig y Coronafeirws, a sut y mae'r sector gwirfoddol a chymunedol wedi chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â'r her hon. 

Cymerodd cynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru ran yn yr ymchwil, gan rannu eu profiadau o nodi ac ymateb i'r rhai mwyaf anghenus yn ystod y pandemig. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod natur agored i niwed wedi dod i'r amlwg yn gyflym, wedi'i gwaethygu pan nad oedd unigolion yn gallu cael mynediad at gymorth gan adnoddau, gwasanaethau a seilwaith lleol penodol.  

Mae anghenion allweddol a ddaeth i'r amlwg o ganlyniad uniongyrchol i'r Coronafeirws a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn cynnwys iechyd meddwl a waethygodd oherwydd gorbryder ac unigrwydd, ansicrwydd economaidd oherwydd straen ar gyllid cartrefi a cholli swyddi, allgáu digidol a cholli llawer o wasanaethau wyneb yn wyneb. Cafwyd bod yr achosion hyn o natur agored i niwed a ddaeth i'r amlwg yn clystyru gyda'i gilydd ac roeddent yn aml wedi'u patrymu ar hyd llinellau anghydraddoldeb cymdeithasol a oedd eisoes yn bodoli. 

Mae'r ymchwil yn amlygu bod y sector gwirfoddol a chymunedol wedi bod yn ganolog wrth helpu i fynd i'r afael â theimlo'n ynysig ac unigrwydd, mynd i'r afael â chanlyniadau allgáu digidol a broceru mynediad at wasanaethau statudol a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth yn ystod y cyfnod hwn.  

Mae'r adroddiad yn nodi saith o asedau craidd a ddelir gan sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol, sy'n eu galluogi i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i'r perygl o fod yn agored i niwed. Y rhain yw: 

  1. Gwybodaeth ac arbenigedd a ddelir gan staff a gwirfoddolwyr gan alluogi gwneud penderfyniadau cyflym o amgylch heriau gweithredol yn ystod cyfnodau o argyfwng 
  2. Maint bach, diffyg hierarchaeth, a phrosesau cadarnhau cyflym sy'n galluogi arloesi cyflym 
  3. Dull cyfannol o ddeall anghenion person 
  4. Wedi'u gwreiddio mewn cymunedau lleol ac wedi'u cysylltu â rhwydweithiau lleol 
  5. Cydweithio a rhannu gwybodaeth â sefydliadau eraill y sector gwirfoddol a chymunedol yn ogystal â'r sector statudol 
  6. Gofal, ymrwymiad a thosturi gwirfoddolwyr a chyflogeion  
  7. Dysgu o brofiad cronedig o'r gorffennol. 

Myfyriodd y cyfweleion ar heriau penodol a wynebwyd gan y sector gwirfoddol a chymunedol yn ystod y pandemig, gan gynnwys, diffyg cyllid diogel, effaith allgáu digidol ar gwmpas gwasanaethau ac effeithiau'r pandemig ar lesiant gweithlu'r sector gwirfoddol a chymunedol ei hun. Ochr yn ochr â rhai o'r cyfleoedd yr oedd y pandemig wedi'u creu, gan gynnwys yr arbedion amser a chostau o weithio digidol, mwy o gydweithio â gwasanaethau statudol a mwy o gydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad i'r sector gwirfoddol a chymunedol cyfan. 

Meddai Dr Richard Kyle, Dirprwy Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r adroddiad hwn yn unigryw gan ei fod yn rhoi tystiolaeth ansoddol ar y cysylltiadau rhwng natur agored i niwed a ddaeth i'r amlwg yn ystod y pandemig ac anghydraddoldebau iechyd a fodolai eisoes o safbwynt y sector gwirfoddol a chymunedol.   

“Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd nodi'n gynnar y rhai a allai fod yn fwy agored i niwed o ran effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol digwyddiadau andwyol, yn gysylltiedig ag iechyd, argyfwng amgylcheddol neu economaidd sy'n rhoi dealltwriaeth ddefnyddiol o sut rydym yn wynebu heriau yn y dyfodol.   Mae’r adroddiad yn dangos pam mae dulliau ataliol o fynd i'r afael â natur agored i niwed ac anghydraddoldebau iechyd sylfaenol hirsefydlog yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol i Iechyd Cyhoeddus Cymru.” 

Ychwanegodd Dr Daniel Jones, meddyg iechyd cyhoeddus ac ymchwilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyd-awdur yr adroddiad: 

“Rhaid i ni wneud popeth y gallwn i gydnabod, gwerthfawrogi a chynnal yr asedau unigryw a gynigir gan sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol i nodi a chefnogi natur agored i niwed lle mae'n dod i'r amlwg.   

“Wrth i ni symud i adferiad rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio'r cyrff iechyd a gofal cymdeithasol i gynllunio a datblygu dull cydgysylltiedig sy'n harneisio ac yn gwerthfawrogi gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol – yn enwedig hyblygrwydd, y gallu i addasu ac ymatebolrwydd lleol.” 

Meddai Dr Sally Rees, Rheolwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol y Trydydd Sector yn WCVA “Mae'r canfyddiadau o'r ymchwil hon yn amlygu'r rôl bwysig y mae'r sector gwirfoddol a chymunedol wedi'i chwarae, o'r cychwyn cyntaf, wrth gefnogi pobl agored i niwed yn ein cymunedau yn ystod COVID-19. Fel y noda'r ymchwil hon, mae angen dull cydgysylltiedig sy'n gwerthfawrogi, yn deall ac yn cydnabod rôl y sector wrth gydgynllunio a chydgyflawni gyda dinasyddion gwasanaethau gwirfoddol a chymunedol cynaliadwy, gydag adnoddau da yn awr, ac yn y dyfodol i leihau'r anghydraddoldebau iechyd cyffredin ledled Cymru.” 

Ar gyfer yr adroddiad llawn ewch i: