Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb i'r her o weithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy - adroddiad newydd

 Mae adroddiad newydd i gynorthwyo cyrff y sector cyhoeddus i weithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy wedi'i gyhoeddi heddiw gan y Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd a'r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad ‘Gweithredu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy’ yn gwneud pum argymhelliad allweddol, a ffurfiwyd o adolygiad o'r dystiolaeth ryngwladol a gynhaliwyd gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Kingston Llundain a'i gomisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol:

“Mae’r adroddiad yn cydnabod bod y ffyrdd o weithio yn cyfnerthu ei gilydd ac felly mae'n cynghori staff i ddechrau lle maent yn teimlo'n gyfforddus. Mae’r adroddiad hefyd yn dweud wrthym lle y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion, gyda'r gweithgarwch wedi'i dargedu at lefel yr unigolyn, tîm, sefydliad a llywodraeth, ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd gwneud ein camau gweithredu yn weladwy ac yn integredig ar bob adeg fel ein bod yn hwyluso'r ‘cylch rhinweddol’ o gymhelliant sydd ei angen i sicrhau a chynnal newid.” 

Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno gwersi allweddol, enghreifftiau a chyngor ymarferol ar gyfer pob un o'r pum ffordd o weithio sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ychwanegodd yr Athro Bellis:

“Mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn galw am ddulliau cymorth amrywiol megis hyfforddiant a pholisïau sefydliadol yn ogystal â chyfathrebu a chyhoeddusrwydd cyson fel bod staff yn rhan o greu a rhannu ‘straeon a thystiolaeth newydd’ ynghylch yr hyn yw llwyddiant yn y gweithle.” 

Wrth wasanaethu cyd-destun Cymru, gall y canfyddiadau hefyd gweithredu fel dogfen ar gyfer unrhyw sefydliad sy'n ceisio gweithredu'r Nodau Datblygu Cynaliadwy y cytunwyd arnynt yn fyd-eang. Meddai Cathy Weatherup, Arweinydd Strategol ar gyfer Canolfan Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru er mwyn helpu i wreiddio'r egwyddorion hyn ar draws sefydliadau a gallu rhannu ein profiadau ac adeiladu arnynt, a fydd nid yn unig o fudd i ni yng Nghymru ond hefyd yn rhyngwladol.”

Meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: 

“Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad newydd hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Phrifysgol Kingston Llundain, ar gefnogi'r gwaith o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a datblygu cynaliadwy. Mae'n dangos sut y mae'n mynd y tu hwnt i fframweithiau eraill yn rhyngwladol er mwyn galluogi trawsnewid radical yn gyflym ac yn eang, mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd croesawu'r Ddeddf fel cyfrwng i newid cywair, ac mae'n atgyfnerthu'r neges bod y Ddeddf yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu normau a rheolau newydd. 

“Rwyf hefyd yn cael sicrwydd gan ei ffocws ar bwysigrwydd y pum ffordd o weithio. Er enghraifft, mae'r adolygiad yn nodi pwysigrwydd cefnogi'r pum ffordd o weithio ar bedair lefel: unigolyn, tîm, sefydliad a system. Mae'n dweud wrthym bod y pum ffordd o weithio yn cyfnerthu ei gilydd, ac y dylech ddechrau lle rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus. Ac mae'n ein hatgoffa ni mor bwysig yw sicrhau integreiddio gweladwy i'r pum ffordd o weithio mewn pobl, polisïau ac ymarfer. 

“Yn fyr, mae'r darn pwysig hwn o waith nid yn unig yn cymeradwyo'r Ddeddf, ond mae'n gweithredu fel nodyn atgoffa pwysig bod gennym y caniatâd ar y cyd i wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru a sbarduno newid go iawn.”

Dogfennau:

Gweithredu'r Egwyddor  Datblygu Cynaliadwy: Gwersi o Adolygiad Llenyddiaeth ar Weithredu'r Pum Ffordd o Weithio
-    Adroddiad cryno
-    Prif adroddiad
-    Ffeithlun

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, anfonwch e-bost i: publichealth.sustainability@wales.nhs.uk.