Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl yng Nghymru?

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2023

Arolwg yn datgelu mai dim ond hanner sy'n ‘gyfforddus’ â chyflwr cyllid eu haelwyd 

Mae arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amlygu bod pobl yng Nghymru yn gynyddol bryderus am arian, gyda 37 y cant yn cytuno eu bod yn ‘ymdopi o drwch blewyn’ ac 11 y cant arall ‘nad ydynt yn ymdopi’ i gael deupen llinyn ynghyd.  

Er bod arolwg blaenorol1 ym mis Ionawr 2022 wedi dangos bod 60 y cant o bobl ‘ddim yn bryderus o gwbl’ am eu cyllid, yn yr arolwg diweddaraf hwn mae'r ffigur wedi mwy na haneru i 27 y cant yn unig o bobl. Yn ogystal, nododd 26 y cant o bobl eu bod yn poeni ‘llawer’ am eu cyllid; cynnydd o gymharu â 15 y cant ym mis Ionawr 2022.  

O'r 2,000 o bobl a gwblhaodd yr arolwg cyntaf ‘Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus’ rhwng 7 Tachwedd 2022 ac 8 Ionawr 2023, nododd bron dau o bob pump (38 y cant) eu bod yn pryderu ‘llawer’ am gostau byw. Roedd un o bob tri (34 y cant) yn cytuno'n gryf eu bod yn torri'n ôl ar wariant nad yw'n hanfodol oherwydd costau byw, ac roedd un o bob pedwar (25 y cant) yn cytuno'n gryf bod costau byw cynyddol yn lleihau eu hansawdd bywyd. 

Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill roedd:  

  • roedd 92 y cant o bobl yn cytuno eu bod yn cadw llygad barcud ar eu cyllid (roedd 51 y cant yn cytuno'n gryf) 
  • roedd 60 y cant o bobl yn cytuno bod costau byw cynyddol yn lleihau eu hansawdd bywyd (roedd 25 y cant yn cytuno'n gryf) 
  • roedd 74 y cant o bobl yn cytuno bod llawer o bobl y maent yn eu hadnabod yn cael anhawster talu am gostau byw (roedd 33 y cant yn cytuno'n gryf) 
  • roedd 78 y cant o bobl yn cytuno eu bod yn torri'n ôl ar eu gwariant ar bethau nad ydynt yn hanfodol a moethau er mwyn helpu gyda chostau byw cynyddol (roedd 34 y cant yn cytuno'n gryf) 
  • roedd 86 y cant o bobl yn cytuno bod llawer o bobl y maent yn eu hadnabod yn torri'n ôl ar eu gwariant ar bethau nad ydynt yn hanfodol a moethau er mwyn helpu gyda chostau byw cynyddol (roedd 43 y cant yn cytuno'n gryf) 
  • roedd 87 y cant o bobl yn cytuno eu bod wedi poeni am gostau byw yn yr wythnos ddiwethaf (38 y cant yn poeni llawer) 
  • mae 68 y cant o bobl yn poeni am y gallu i wresogi eu cartref (28 y cant llawer) 
  • byddai 39 y cant yn hoffi cael gwybodaeth am wella effeithlonrwydd ynni gartref.  

Meddai Dr Catherine Sharp, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae'r panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus wedi'i greu i alluogi trigolion Cymru i gael llais mewn polisi ac ymarfer sy'n effeithio arnynt, eu cymunedau, a'u cenedl. Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn gweld pobl Cymru fel partner allweddol yn ein penderfyniadau.” 

“Mae dealltwriaeth o'r panel yn awgrymu bod yr ansicrwydd ariannol sy'n cael ei ysgogi gan gostau byw cynyddol yn achosi pobl i boeni mwy am arian nag yr oeddent yn y gorffennol. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod cyfran sylweddol o bobl yng Nghymru yn cael anhawster cael deupen llinyn ynghyd, ond eto mae cyfran uwch fyth yn poeni am eu cyllid.”   

“Dywedodd llawer o ymatebwyr y byddai eu haelwydydd yn cael budd o ragor o wybodaeth y gaeaf hwn ar faterion fel gwella effeithlonrwydd ynni gartref, gwella iechyd meddwl a llesiant, cysylltu pobl yn y gymuned, bwyta'n iach ar gyllideb a rheoli cyllid. Rydym wedi dod â chyfoeth o adnoddau ynghyd er mwyn helpu pobl i gael gafael ar y cymorth hwn yn: Cadw'n iach yn ystod yr Argyfwng Costau Byw” 

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel newydd o drigolion sy 'n cynrychioli Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltu â'r cyhoedd yn rheolaidd i lywio polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus.  

Mae'r panel yn ei gyfnod peilot ar hyn o bryd, ac mae'n ceisio recriwtio sampl sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol o drigolion 16 oed a throsodd i gymryd rhan mewn arolygon misol a rhoi cipolwg ar faterion iechyd cyhoeddus allweddol.

1 Sut ydym ni yng Nghymru? Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod y Mesurau Coronafeirws, Ionawr 2022