Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Iechyd Rhyngwladol wedi'i hadnewyddu i helpu i greu Cymru decach, iachach

Cyhoeddwyd: 24 Hydref 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru ei Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017 i adlewyrchu'r newidiadau sylweddol yn y dirwedd fyd-eang yn well a galluogi Strategaeth Hirdymor newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae Cymru yn rhannu nifer o'i heriau â'r gymuned ryngwladol gan gynnwys mynd i'r afael ag effeithiau iechyd yr argyfwng hinsawdd, effaith hirdymor pandemig Covid-19, anghydraddoldeb, iechyd meddwl a llesiant, a'r argyfwng costau byw. Mae Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi sut y bydd y sefydliad yn gweithio gyda phartneriaid fel sefydliadau iechyd cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ac eraill i alluogi dysgu a gweithio mewn partneriaeth er enghraifft, drwy ddarparu Cymuned Ymarfer Iechyd Rhyngwladol. 

Nod y strategaeth newydd yw:  

  • Sicrhau'r manteision mwyaf posibl i iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. 
  • Datblygu pobl a sefydliadau sy'n gyfrifol yn fyd-eang. 
  • Ymateb i fygythiadau iechyd byd-eang a chael budd o gyfleoedd rhyngwladol. 

Gall gweithio iechyd rhyngwladol amrywio o bartneriaethau ymchwil, rhannu gwybodaeth ar y cyd drwy gyfarfodydd digidol i hyfforddiant ar y cyd a chydweithio ar brosiectau. Yna gellir gweithredu'r dysgu hwn yng Nghymru i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. 

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol:

“Mae gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol yn cynnwys manteision posibl o ran gwella iechyd y boblogaeth a chreu Cymru decach.  

“Bydd y strategaeth hon wedi'i hadnewyddu yn cynorthwyo ein cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a thu hwnt wrth ddysgu ar y cyd drwy arbenigedd iechyd rhyngwladol a'i rannu, gan ein helpu i atal clefydau, hyrwyddo a diogelu iechyd a llesiant, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a all gael effaith gydol oes ar iechyd y boblogaeth.”