Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd wrth i opioidau synthetig cryfder uchel gael eu nodi yn y farchnad bensodiasepin anghyfreithlon

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2023

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus Cymru yn yr unig wasanaeth profi cyffuriau cenedlaethol yn y DU yn rhybuddio efallai nad yw pobl yn cael yr hyn y maent yn meddwl eu bod yn ei gael wrth brynu bensodiasepinau.

Maent yn arbennig o bryderus am fewnlifiad o opioidau synthetig cryf iawn sy'n cael eu nodi mewn sylweddau sy'n cael eu gwerthu fel bensodiasepinau.

Mae bensodiasepinau yn feddyginiaethau sydd ar gael drwy bresgripsiwn.  Fodd bynnag, efallai y bydd rhai pobl yn eu prynu mewn marchnadoedd heb reolaeth, yn aml ar-lein, ar gyfer cyflyrau cyffredin fel gorbryder neu broblemau cysgu.

Ers mis Medi 2023, mae WEDINOS, y gwasanaeth profi cyffuriau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi derbyn dros 20 sampl o bensodiasepinau sy'n cynnwys nitazines, sef opioid synthetig cryf iawn.  Roedd y samplau hyn yn cynnwys sylweddau a brynwyd ar-lein gan aelodau o'r cyhoedd o bob rhan o'r DU, ac mae'n debygol eu bod yn credu eu bod yn gynhyrchion fferyllol gwirioneddol.

Mae nitazines yn opioidau synthetig cryf iawn sy'n cael eu nodi'n gynyddol yn y cyflenwad o gyffuriau anghyfreithlon yn y DU. Er bod nitazines fel arfer yn cael eu canfod mewn opioidau eraill, mae WEDINOS wedi nodi eu presenoldeb mewn nifer cynyddol o samplau a gyflwynir fel cyffuriau eraill, yn enwedig diazepam, meddyginiaeth bensodiasepinau sy'n trin gorbryder, gwingo yn y cyhyrau a ffitiau. 

Mae diazepam hefyd yn cael ei ddefnyddio weithiau yn anfeddygol. Mae'r sylweddau wedi'u cyflwyno'n bennaf i WEDINOS fel tabledi, ond maent hefyd wedi'u cyflwyno mewn ffurfiau eraill. 
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi canfod nitazines mewn samplau a gyflwynwyd fel cyffuriau eraill gan gynnwys alprazolam neu oxycodone.

Gellir gwrthdroi gorddos o opioidau fel nitazines os rhoddir Naloxone, sef meddyginiaeth sy'n achub bywyd. Yng Nghymru, gellir archebu Naloxone am ddim ar-lein gan Dan 24/7, sef llinell gymorth cyffuriau ac alcohol Cymru.
    
Meddai Rick Lines, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn pryderu y gallai pobl sy'n cymryd y sylweddau hyn gael eu hunain mewn sefyllfa sy'n peryglu eu bywydau'n gyflym. I unigolion sy'n profi effeithiau negyddol o gymryd yr hyn y credant sy'n bensodiasepinau, efallai eu bod mewn gwirionedd yn profi gorddos opioid mwy difrifol y dylid ei drin â Naloxone.

“Rydym am godi ymwybyddiaeth o'r peryglon a sicrhau bod pobl yn gwybod bod Naloxone yn feddyginiaeth sy'n achub bywyd sydd ar gael am ddim yng Nghymru i wrthdroi effeithiau gorddos opioid.  Dylai unrhyw un sy'n credu ei fod yn profi gorddos opioid ffonio 999.

“Gall pobl amddiffyn eu hunain ymhellach drwy sicrhau eu bod dim ond yn cael meddyginiaethau presgripsiwn drwy eu meddyg teulu.”

Meddai Luke Ogden o Dan 24/7:

“Rydym yn pryderu efallai nad yw pobl yn cael yr hyn maent yn credu eu bod yn ei gael wrth brynu cyffuriau anghyfreithlon.

“Rydym yn cynnig gwasanaeth archebu ar-lein hawdd ar gyfer Naloxone, sy'n golygu y gall pobl gael eu pecyn Naloxone eu hunain i'w gario a'i ddefnyddio mewn achos o orddos opioid a amheuir.”

Mae mynediad at gyngor a phecynnau prawf ar gael yn www.dan247.org.uk neu drwy ffonio Dan 24/7 ar 0808 808 2234.