Neidio i'r prif gynnwy

Penodiadau newydd i dîm gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd: 3 Awst 2023.

Bydd yr Athro Jim McManus yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant newydd yn yr hydref. Mae Jim yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru o Gyngor Sir Swydd Hertford lle bu'n Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus am dros 11 mlynedd. Mae'n dod â phrofiad sylweddol o weithio strategol ym maes iechyd cyhoeddus a hanes blaenorol sylweddol o weithio yn genedlaethol, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf yn ei rôl fel Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU.

Mae gan Jim gefndir hefyd yn gweithio ym maes Trosedd a Pholisi Cymdeithasol yn y Swyddfa Gartref ac fel Cyd-sylfaenydd Rhwydwaith Gwyddor Ymddygiad mewn Iechyd Cyhoeddus ledled y DU. Mae Jim hefyd yn Gymrawd y Gymdeithas Ryngwladol Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Glasgow ac yn Athro Gwadd yn Ysgol Gwyddorau Bywyd Prifysgol Swydd Hertford ers 2012.

Bydd Claire Birchall hefyd yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel ein Cyfarwyddwr Dros Dro Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd am 12 mis o 25 Medi 2023. Mae gan Claire brofiad sylweddol mewn rolau arweinyddiaeth y GIG ar draws ystod eang o bortffolios ac ar draws amrywiaeth o sefydliadau. Mae Claire yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru o Weithrediaeth y GIG lle mae'n arwain Rhwydwaith Canser Cymru a chyn sefydlu Gweithrediaeth y GIG, roedd hefyd yn Nyrs Arwain Broffesiynol ar gyfer Cydweithrediaeth y GIG.

Bydd Angela Cook, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn gweithredu yn y rôl hyd nes y bydd Claire yn dechrau ym mis Medi.