Neidio i'r prif gynnwy

Pa dymheredd dan do sydd orau i iechyd?

Cyhoeddwyd: 29 Tachwedd 2022

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau y gall dod i gysylltiad â thymereddau oer dan do fod yn wael i'n hiechyd ac effeithio ar amrywiaeth eang o ganlyniadau iechyd.

Astudiodd yr ymchwil yr effeithiau iechyd sy'n gysylltiedig â thymereddau ar 18°C neu is; yr isafswm tymheredd y mae Sefydliad Iechyd y Byd ac awdurdodau'r DU, gan gynnwys Cymru ar hyn o bryd yn argymell i'r boblogaeth gyffredinol gynhesu eu cartrefi iddo.  

Cafodd 17 o'r 20 o astudiaethau a adolygwyd fod dod i gysylltiad â thymereddau oer gwahanol o dan 18°C yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd gan gynnwys iechyd y galon ac anadlol, cwsg, perfformiad corfforol ac iechyd cyffredinol. Roedd pobl hŷn a'r rhai â phroblemau iechyd cronig yn fwy agored i niwed o ran effeithiau negyddol tymereddau oer. Er enghraifft, roedd tymereddau dan do ar 18.2°C neu is yn gysylltiedig â symptomau mwy difrifol mewn cleifion â phroblemau anadlol.  

Fodd bynnag, ni welwyd unrhyw gysylltiad rhwng tymereddau dan do oerach a chynnydd mewn haint feirysol ar gyfer poblogaethau oedolion a phlant iach yn y gaeaf.  

Meddai Hayley Janssen, Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae gosod argymhellion tymheredd yn un ffordd o helpu'r cyhoedd i wneud dewisiadau gwybodus iach ynghylch faint i gynhesu eu cartref. Mae'r dystiolaeth gyffredinol yn awgrymu y bydd cartrefi yn osgoi llawer o'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â chartrefi oer os ydynt yn gyffredinol yn cynnal tymereddau cartref o 18°C neu uwch. Wrth i dymereddau ostwng o dan 18°C mae rhai risgiau iechyd yn cynyddu'n raddol ond gall y rhain amrywio yn ôl natur agored i niwed ac oedran. 

“Dangosodd ein hymchwil hefyd fod bylchau sylweddol yn y dystiolaeth – fel effeithiau tymereddau oerach ar blant a phobl ifanc, effeithiau iechyd a llesiant hirdymor dod i gysylltiad â thymereddau dan do isel, na hyd yr amlygiad sy'n arwain at salwch.” 

Mae'r adroddiad yn nodi sut y gall gosod argymhellion isafswm tymheredd fod yn aneffeithiol mewn amrywiaeth o amgylchiadau gan gynnwys os nad yw cartrefi yn gallu cyflawni targedau oherwydd diffyg arian. Gall hyn fod yn arbennig o wir o ystyried cynnydd mewn tlodi tanwydd, costau byw a phrisiau ynni. Felly, mae modd cyfiawnhau ymdrechion pellach i ddeall y berthynas rhwng tlodi tanwydd a dod i gysylltiad â thymereddau oer dan do ac iechyd a llesiant.  

Mae’r adroddiad yn nodi bod angen i argymhellion tymheredd gael eu hystyried hefyd yng nghyd-destun ffactorau eraill, gan gynnwys cyfraniad allyriadau cartrefi i newid hinsawdd a phwy yw'r bobl yn y cartref. Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Lullaby yn argymell tymheredd ystafell 16-20°C, i leihau'r risg o fabanod yn gorgynhesu, sy'n ffactor risg ar gyfer syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS). 

Mae rhai meysydd pwysig ar gyfer ymchwil bellach i helpu i benderfynu ar argymhellion trefn wresogi foddhaol yng Nghymru yn cynnwys: 

  • Effaith tymereddau dan da oer ar iechyd meddwl a llesiant; 
  • Effaith tymereddau penodol ar iechyd corfforol a meddwl a llesiant eu trigolion; a  
  • Dylanwad ffactorau cyd-destunol fel newid hinsawdd, cynnydd mewn tlodi tanwydd a gweithio o bell. 

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynghori cartrefi i osod tymereddau i  21°C yn yr ystafell fyw ac 18°C mewn ystafelloedd eraill am 9 awr ym mhob cyfnod o 24 awr ar ddyddiau'r wythnos, ac 16 awr mewn cyfnod o 24 awr ar benwythnosau. 

I'r rhai sydd â phobl agored i niwed, yr argymhellion yw 23°C yn yr ystafell fyw ac 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr.  

Cafodd ‘Adolygiad llenyddiaeth systematig ar gartrefi oer a'u cysylltiad ag iechyd a llesiant’, ei baratoi gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Canolfan Gydweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Uned Gydweithredol Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Bangor. Cafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gydag arian ychwanegol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.