Neidio i'r prif gynnwy

Nid oes rhaid i gaffael gostio ffortiwn na niweidio'r ddaear

Cyhoeddwyd: 7 Chwefror 2023

Mae Iechyd cyhoeddus Cymru yn annog unrhyw un yn y sector cyhoeddus i lawrlwytho ei ganllaw newydd a dechrau lleihau costau a thorri carbon pryd bynnag y maent yn cyrchu nwyddau neu wasanaethau. 

Mae caffael yn ddrud ac yn niweidiol ar hyn o bryd, gan gostio tua £7 biliwn y flwyddyn i sector cyhoeddus Cymru, ac mae 62 y cant o allyriadau carbon GIG Cymru yn dod o gaffael. 

Mae’r e-ganllaw newydd, am ddim wedi’i greu i’w gwneud yn hawdd ac yn gyraeddadwy i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddilyn y geiriau ‘Byddwch y Newid’ a gwneud caffael yn fwy cynaliadwy, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a bod yn fwy cyfrifol yn fyd-eang.  

Meddai Eurgain Powell, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy ac Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i weithio tuag at ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Meddwl yn yr hirdymor ynghylch yr hyn y maent yn ei brynu a chylch bywyd y cynnyrch cyfan, prynu pethau y gellir eu trwsio neu eu hailddefnyddio gan leihau niwed, cydweithio ag eraill i rannu neu brynu’n fwy effeithlon, prynu oddi wrth fusnesau lleol a chefnogi a chynnwys lleoedd a phobl leol. 

“Gall caffael cynaliadwy olygu ystyried peidio â phrynu pethau o gwbl, prynu nwyddau sy'n effeithlon o ran ynni ac adnoddau, nwyddau moesegol fel coffi Masnach Deg, neu gynnyrch a gwasanaethau lleol sy’n cefnogi busnesau lleol. Gall hefyd gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau sefydliadol ac amcanion llesiant, ac yn y pen draw gall wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.  

“Bydd y canllaw newydd yn helpu unrhyw un sy'n gyfrifol am brynu nwyddau neu wasanaethau i feddwl am yr hyn y mae angen iddynt ei brynu ac i newid y broses ar gyfer galluogi gostyngiad yn ein heffaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd yn well, ac annog ymddygiad cynaliadwy yn eu bywyd gwaith a'u bywyd gartref.” 

Mae’r canllaw yn cynnwys esboniad o'r materion a chamau i’w cymryd i wneud y broses gaffael yn llai niweidiol i’r blaned gyda chymorth ac arweiniad ar ddeddfwriaeth, canllawiau, dolenni defnyddiol i wybodaeth arall, adnoddau, sefydliadau, enghreifftiau, ffynonellau cyngor a syniadau i helpu’r rhai sy’n gyfrifol i feddwl am y broses gaffael a chymryd camau gweithredu ymarferol. 

Er enghraifft, mae dod o hyd i eitemau Masnach Deg yn dangos eich ymrwymiad i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ffermwyr a gweithwyr, helpu i gefnogi diogelwch bwyd drwy gyflog tecach, ac i fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae Pythefnos Masnach Deg (27 Chwefror i 12 Mawrth 2023) yn annog pawb i wneud y newid bach syml i Fasnach Deg er mwyn mwyn cefnogi cynhyrchwyr. 

Mae ‘Byddwch y Newid - Caffael nad yw'n costio ffortiwn nac yn niweidio'r ddaear’ yn e-ganllaw am ddim, y gellir ei lawrlwytho.