Neidio i'r prif gynnwy

Mewnwelediadau newydd yn dangos potensial data ar draws systemau iechyd a gofal i lywio cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 7 Mawrth 2024

Mae gofalwyr di-dâl yn dioddef iechyd corfforol a meddyliol gwaeth na'r rhai nad ydynt yn ofalwyr ac yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn fwy na gweddill y boblogaeth, felly mae'n hanfodol bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael mynediad at gymorth a chyngor, ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant eu hunain a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. 

Mae adroddiad newydd gan Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru) – partneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Phrifysgol Abertawe - yn dangos bod defnyddio data o ffynonellau lluosog gan gynnwys meddygon teulu ac awdurdodau lleol, yn golygu bod gan asiantaethau ddarlun mwy cyflawn o nifer y gofalwyr di-dâl ledled Cymru.   

Mae’r adroddiad, a gyhoeddir heddiw, yn dangos bod cyswllt data yn rhoi mewnwelediadau newydd i'r boblogaeth o ofalwyr di-dâl ar lefel awdurdod lleol yng Nghymru, a bod ganddo'r potensial i helpu i ddeall a chynorthwyo anghenion gofalwyr di-dâl yn well. 

Nodwyd 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yng Nghyfrifiad diweddaraf 2021.  Canfu'r adroddiad mai prin iawn oedd y gorgyffwrdd rhwng y boblogaeth o ofalwyr di-dâl a gofnodwyd mewn Practisau Cyffredinol a chan awdurdodau lleol, a bod gan ofalwyr di-dâl iechyd meddwl a chorfforol gwaeth ac, felly, mwy o angen am ofal iechyd.  

Gweithiodd tîm NDL Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Ddinbych i gysylltu asesiad gofalwyr dienw â ffynonellau data GIG Cymru a gesglir yn rheolaidd o fewn y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) https://saildatabank.com/.   

Dangosodd yr ymchwil, drwy ddefnyddio data rheolaidd o ffynonellau llywodraeth leol, yn gysylltiedig â data iechyd a gweinyddol dienw, a gesglir yn rheolaidd ym Manc Data SAIL Prifysgol Abertawe, ei bod yn bosibl cael gwell dealltwriaeth o'r boblogaeth o ofalwyr di-dâl yn lleol. 

Meddai  Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae deall maint y boblogaeth gofalwyr di-dâl yng Nghymru, a'u hanghenion yn hanfodol i lywio'r cymorth sydd ar gael i'r boblogaeth hanfodol bwysig hon yng Nghymru.  Ac eto, yn aml mae hyn yn gyfyngedig drwy gael un safbwynt yn unig e.e. o ofal sylfaenol neu lywodraeth leol.  Yma, mae'r dull newydd hwn wedi dangos gwerth dod â data dienw o bob rhan o systemau iechyd a gofal at ei gilydd, i roi dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o ofalwyr di-dâl fel grŵp, ac i gynorthwyo asiantaethau i ymateb i anghenion gofalwyr di-dâl ledled Cymru".   

Meddai Jake Smith, o Gofalwyr Cymru, “Mae'r ymchwil hon yn cynrychioli cyfraniad gwerthfawr at ein dealltwriaeth o'r boblogaeth o ofalwyr di-dâl a sut y mae gofalwyr di-dâl yn rhyngweithio â gwahanol wasanaethau. Mae'n amlwg nad yw cyfran sylweddol o'r rhai â chyfrifoldebau gofalu di-dâl yn cael eu nodi fel gofalwyr di-dâl ac efallai eu bod yn colli allan ar gymorth o ganlyniad i hynny. Drwy gyfuno setiau data awdurdodau lleol a'r GIG, mae'r ymchwil hon yn taflu goleuni ar y mater hwn a dylai fod yn gymhelliant ar gyfer canolbwyntio o'r newydd ar gydweithio i gyflawni prosesau gwell o nodi gofalwyr di-dâl a rhoi cymorth iddynt.” 

Meddai Sarah Waite o Gyngor Castell-nedd Port Talbot, un o'r tri awdurdod lleol a gymerodd ran yn yr astudiaeth: “Mae'r ymchwil wedi llywio a chynorthwyo adolygiad lleol o ofalwyr di-dâl ar draws oedolion a phobl ifanc yn CNPT.  Mae wedi helpu i ddechrau'r sgwrs gyda'n cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol, ynghylch sut y gallwn gryfhau ein llwybrau nodi a chymorth drwy gydol Taith Gofalwyr i hwyluso dull mwy ataliol sy'n ymyrryd yn gynnar.  Gyda'r nod o sicrhau llesiant gofalwyr, mynediad amserol at wybodaeth a chyngor a lle y bo'n bosibl atal gofalwyr rhag bod o dan bwysau gormodol a methu ag ymdopi.”