Neidio i'r prif gynnwy

Manteision brechlyn Coronafeirws yn llawer mwy na'r risgiau

Cyhoeddwyd: 14 Hydref 2021

Mae ymgyrch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog menywod beichiog i gael y brechlyn Coronafeirws yn lansio heddiw (dydd Iau 14 Hydref 2021).  

Mae'n ymddangos nad yw menywod beichiog yn fwy na'n llai tebygol o ddal y feirws, ond mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod menywod beichiog sydd â'r coronafeirws yn wynebu risg uwch o salwch difrifol a chael eu derbyn i'r ysbyty o gymharu â menywod nad ydynt yn feichiog sydd â'r Coronafeirws.    

Mae cymhlethdodau fel cyneclampsia, geni cyn amser a marw-enedigaeth ddwywaith yn fwy tebygol mewn menywod beichiog â'r Coronafeirws o gymharu â menywod beichiog nad oes ganddynt Coronafeirws. Mae'r risgiau'n cynyddu yn y tri mis olaf ac i fenywod â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes.  

Mae'r data diweddaraf o'r Dangosyddion Mamolaeth a System Imiwneiddio Cymru yn dangos nad oedd 89 y cant o fenywod beichiog wedi cael unrhyw ddos o'r brechlyn Coronafeirws cyn i'w babi gael ei eni*. 

Meddai Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol iawn o ran atal Coronafeirws a lleihau risgiau i fenywod beichiog a'u babanod.  

“Yn America mae 160,000 o fenywod beichiog wedi cael y brechlyn Coronafeirws, ac yma yng Nghymru, yr Alban a Lloegr mae 100,000 o fenywod beichiog wedi cael y brechlyn Coronafeirws. Nid oes unrhyw effeithiau andwyol ar feichiogrwydd wedi'u nodi o ganlyniad i gael y brechlyn tra'n feichiog. Mae'r GIG yn monitro diogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn yn ystod beichiogrwydd a byddwn yn parhau i wneud hynny.  

“Cafwyd llawer o gamwybodaeth am ddiogelwch y brechlynnau yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil yn cynnwys mwy na 40,000 o fenywod beichiog yn dangos nad yw cael y brechlyn Coronafeirws yn cynyddu'r risg o gamesgoriad, geni cyn amser na marw-enedigaeth. 

“Fodd bynnag, mae dal Coronafeirws tra'n feichiog yn golygu eich bod ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau fel cyneclampsia, geni cyn amser a marw-enedigaeth. Er bod y risgiau dan sylw yn eithaf isel ar y cyfan, mae'r wyddoniaeth yn dangos ei bod yn fwy diogel cael y brechlyn na pheidio â'i gael.” 

Meddai Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka: “Hoffwn roi sicrwydd i famau beichiog bod brechlyn y Coronafeirws yn seiliedig ar wyddoniaeth sydd wedi'i defnyddio'n ddiogel ar fenywod beichiog ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys brechlynnau sydd eisoes yn cael eu rhoi yn ystod beichiogrwydd fel brechlyn y pas a'r ffliw. Nid yw'r brechlyn a ddefnyddir yn frechlyn byw, felly ni all roi'r feirws i chi.  

“Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn argymell brechu fel un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn yn erbyn haint difrifol. 

“Rydym yn gweld mwy o fenywod beichiog heb eu brechu yn yr ysbyty yn ddifrifol wael gyda'r Coronafeirws. Gall y brechlyn helpu i amddiffyn mamau a babanod rhag niwed y gellir ei osgoi a gellir ei roi ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd. Byddwn yn annog pobl i gymryd y brechlyn pan gaiff ei gynnig.” 

Bydd yr ymgyrch yn cael ei chyflwyno'n bennaf drwy hysbysebu digidol a chyfryngau cymdeithasol. Mae cymorth i fydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n dod i gysylltiad â menywod beichiog hefyd yn cael ei ddarparu.  

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn Coronafeirws yn ystod beichiogrwydd ar gael yma.

Gall unrhyw fenyw feichiog a hoffai drefnu ei brechlyn wneud hynny yn Cael eich brechlyn COVID-19 | LLYW.CYMRU   

*Drwy ddadansoddi data cysylltiedig o'r Dangosyddion Mamolaeth a System Imiwneiddio Cymru ar gyfer 9,866 o fenywod a roddodd enedigaeth rhwng 16 Ebrill 2021 a 31 Awst 2021, rydym yn amcangyfrif bod 11% (1,056) wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn Coronafeirws cyn geni a 5% (483) wedi cael dau ddos.