Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r argyfwng costau byw yn niweidio iechyd plant yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol

Cyhoeddedig: 7 Medi 2023

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn galw am gamau gweithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant yng Nghymru. Mae adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canfod bod iechyd plant, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn byw mewn tlodi, yn cael ei niweidio gan yr argyfwng costau byw. Bydd y niwed i iechyd yn cael sgil-effeithiau negyddol ar gyfleoedd iechyd a bywyd plant yn y dyfodol. 

Mae'r adroddiad yn canfod bod yr argyfwng costau byw yn golygu nad yw mwy o deuluoedd a phlant yng Nghymru yn gallu fforddio cadw eu cartrefi'n gynnes na bwyta digon o fwyd iach. Mae hyn yn cynyddu'r risg o blant yn datblygu cyflyrau iechyd fel asthma neu ordewdra, neu fethu canolbwyntio yn yr ysgol. Mae hyn nid yn unig yn niweidio iechyd a llesiant plant nawr ond eu cyfleoedd bywyd yn y dyfodol hefyd, sydd â'r potensial i'w dal mewn tlodi. Tynnwyd sylw at dlodi hylendid – methu fforddio cynhyrchion sydd eu hangen ar gyfer gofal a hylendid sylfaenol, fel sebon a glanedydd golchi dillad – fel mater allweddol hefyd. Gall hylendid gwael gael effeithiau negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol plant a'u llesiant, a gall gyfrannu at y cywilydd a'r stigma y gall rhai plant eu profi o ganlyniad i dlodi. 

Mae’r adroddiad yn galw am ymateb traws-bolisi i dlodi plant a'r argyfwng costau byw, gan nodi 11 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys gwell cymorth ariannol, help gyda chostau bwyd, ynni, hylendid, gofal plant, cludiant cyhoeddus a mynd i'r ysgol, a chanolbwyntio ar atal cam-drin, stigma, cywilydd a chynorthwyo llesiant meddyliol. 

Mae plant eisoes yn wynebu'r risg uchaf o fod mewn tlodi o blith unrhyw grŵp oedran, ac mae'r 1 o bob 4 o blant yng Nghymru sydd eisoes yn byw mewn tlodi yn cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw. Gall effaith tlodi plant fod yn un gydol oes a'i theimlo ar draws cymunedau a chymdeithas a rhwng cenedlaethau. Y 1000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn, o'r cenhedlu hyd at eu pen-blwydd yn ddwy oed, yw'r pwysicaf ar gyfer llunio iechyd a llesiant plant i oedolaeth.   

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei Strategaeth Tlodi Plant ac mae'r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio tynnu sylw at y cysylltiad rhwng tlodi plant a chanlyniadau iechyd gwael i blant, nawr ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn amlygu'r angen i arweinwyr a llunwyr polisi ystyried y pwysau ychwanegol y mae'r argyfwng costau byw yn ei roi ar iechyd a llesiant plant a theuluoedd. 

Meddai Manon Roberts, Uwch Swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae tlodi yn sbardun mawr o ran iechyd gwael ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Nid yw tlodi a'i effaith ar iechyd plant yn broblem newydd yng Nghymru ond mae'n un sydd wedi'i gwaethygu gan yr argyfwng costau byw, gan wthio mwy o deuluoedd i argyfwng. Mae cynorthwyo plant a theuluoedd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn allweddol ar gyfer adeiladu dyfodol iachach a mwy cyfartal i Gymru. Mae angen gweithredu nawr i ddiogelu iechyd a llesiant ein plant heddiw a'r oedolion y byddant yn y dyfodol.”