Neidio i'r prif gynnwy

Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol i wella canlyniadau iechyd tymor byr a hirdymor

Cyhoeddig: 21 Chwefror 2024

Mae 2.46 miliwn o blant o dan 15 oed yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn y DU. Mae cyfraddau tlodi wedi parhau'n uchel yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf gyda phlant yn gyson yn wynebu'r risg uchaf o fyw mewn tlodi o blith unrhyw grŵp oedran. Mae'r argyfwng costau byw wedi cynyddu'r risg o effeithiau negyddol tlodi ar iechyd. Mae'r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol diweddaraf gan Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar effaith tlodi ar fabanod, plant a phobl ifanc ac yn crynhoi dulliau rhyngwladol i'w atal a/neu ei leihau. 

Mae tlodi eithafol yn effeithio'n anghymesur ar blant ac mae eu hiechyd a'u llesiant yn fwy agored i niwed o ran ei effeithiau yn y tymor byr a'r hirdymor. Gall tlodi yn ystod plentyndod arwain at ganlyniadau iechyd gwael ac wrth iddynt ddod yn oedolion, fel asthma, gordewdra ac iechyd meddwl gwael. Mae'n gysylltiedig â chyrhaeddiad addysgol isel, canlyniadau economaidd-gymdeithasol gwael a safonau byw gwael pan fyddant yn oedolion, gan groesi cenedlaethau. Mae stigma sy'n gysylltiedig â thlodi mewn plant yn cael effaith sylweddol nid yn unig ar iechyd meddwl a hunan-barch ond hefyd o ran manteisio ar gymorth, er enghraifft prydau ysgol am ddim, nawdd cymdeithasol, lles brys a chymorth gyda dyledion. 

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod dull amlasiantaeth yn hanfodol o ran cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, fel y llywodraeth, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, asiantaethau tai, landlordiaid, addysg, gwasanaethau iechyd meddwl a'r sector preifat. Mae'n gweithio'n fwyaf effeithiol pan gaiff ei ategu gan ddealltwriaeth gyffredin o niwed a'r camau blaenoriaeth sydd eu hangen i fynd i'r afael ag ef. 

Mae’r adroddiad yn cynnwys dulliau llwyddiannus ac atebion posibl i fynd i'r afael â thlodi a'i effeithiau negyddol ar fabanod, plant a phobl ifanc. Gall buddion cyffredinol i blant sy'n rhoi trosglwyddiadau arian parod i rieni i'w gwario fel y gwelant yn dda yn gallu mynd i'r afael ag iechyd a llesiant plant a'u gwella. Mae rhaglenni diogelwch cymdeithasol yn cysylltu teuluoedd â gofal plant, bwyd maethlon ac addysg o safon i roi cyfle teg i bob plentyn mewn bywyd.  

Meddai Leah Silva, Uwch-swyddog Polisi, “Mae symud gwariant cyhoeddus tuag at ymyrryd ac atal cynnar yn hanfodol ar gyfer datblygu polisïau mwy effeithiol ac effeithlon i fynd i'r afael â thlodi plant.” 

“Mae atal tlodi ymhlith babanod, plant a phobl ifanc yn cael ei gyflawni'n fwyaf effeithiol drwy strategaethau integredig sy'n cyfuno cymorth i rieni gael mynediad at gyflogaeth deilwng yn ogystal â chymorth i blant gael mynediad at gyfleoedd ar gyfer bywyd iach. Gall galluogi rhieni i gael mynediad at waith am dâl a gwasanaethau o ansawdd, fel addysg cyn-ysgol, iechyd a thai, gael effaith gadarnhaol. Mae'n helpu rhieni i osgoi straen, yn gwella eu mynediad at adnoddau a'u gallu i fabwysiadu a chynnal ymddygiad iach.  Mae hefyd yn galluogi plant i gael mynediad gwell at nwyddau a gwasanaethau hanfodol.” 

“Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ledled Cymru ac yn rhyngwladol i nodi tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, archwilio atebion a datblygu dulliau ac offer arloesol i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi a helpu i leihau effeithiau niweidiol hirdymor ar iechyd a llesiant.” 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bolisïau llwyddiannus yn yr Alban a Slofenia. Yn yr Alban mae dulliau lleol a chenedlaethol o atal neu leihau tlodi yn targedu'r grwpiau mwyaf mewn perygl (gan gynnwys plant) ac maent wedi canolbwyntio ar sicrhau gweithredu effeithiol a monitro canlyniadau. Gostyngodd plant mewn “tlodi parhaus” yn yr Alban i 10% yn 2019/20 o gymharu â 14% yn 2007/08. Yn Slofenia maent wedi canolbwyntio ar ofal plant a diogelwch cymdeithasol wedi'u cysoni a chanolbwyntio eu dull ar deuluoedd yn hytrach nag ar blant unigol. Mae eu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Gwarant Plant yn canolbwyntio ar feysydd sy'n effeithio ar gyfraddau tlodi plant gan gynnwys gofal, addysg, iechyd, maeth a thai. 

Nid oes gan Lywodraeth Cymru bŵer llawn (datganoledig) dros lawer o feysydd polisi sy'n ysgogi cyfraddau tlodi plant. Serch hynny, ym mis Ionawr 2024, adnewyddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant Cymru. Ynghyd â deddfwriaeth ac ysgogiadau polisi eraill, mae Cymru wedi gosod amgylchedd galluogi unigryw i flaenoriaethu camau gweithredu i amddiffyn plant yn erbyn effeithiau tlodi a mynd i'r afael â'i achosion sylfaenol. 

Rhagor o wybodaeth:  

Mae'r gyfres o adroddiadau Sganio'r Gorwelion yn rhoi crynodeb lefel uchel o ddysgu o brofiadau bywyd go iawn o wledydd dethol, a chan amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol a llwyd. Mae'r adroddiadau, a gyhoeddir bob deufis, yn cynnig cipolwg byr o'r dystiolaeth, polisi ac ymarfer presennol, gan rannu enghreifftiau o wledydd perthnasol a chanllawiau ac egwyddorion cyrff rhyngwladol.