Neidio i'r prif gynnwy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mabwysiadu dull newydd o fynd i'r afael ar frys â'r defnydd o gynhyrchion fepio ymhlith plant a phobl ifanc.

Cyhoeddedig: 15 Awst 2023. 

Dangosodd ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod Cymru wedi profi cynnydd cyflym mewn fepio gan bobl ifanc oed ysgol uwchradd rhwng 2019 a 2022, yn enwedig ymhlith merched. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae adborth gan rieni a phenaethiaid yng Nghymru yn awgrymu y gallai'r cyfraddau fod wedi parhau i gynyddu ac yn fwy pryderus bod rhagor o bobl ifanc yn dangos arwyddion o ddefnydd problematig neu ddibyniaeth.  

Er y gall fepio fod yn werthfawr wrth gynorthwyo smygwyr tybaco nad ydynt wedi gallu rhoi'r gorau iddi drwy ffyrdd eraill i leihau eu risgiau iechyd yn sylweddol, mae'r holl arbenigwyr yn glir nad yw fepio yn ddiogel i'r rhai nad ydynt yn smygu.  Mae pryder y gall defnydd aml fod yn gwneud pobl ifanc yn agored i risg caethiwed i nicotin. Gall caethiwed i nicotin achosi problemau gyda sylw, tymer, rheoli symbyliad a phroblemau cysgu ac felly mae effaith bosibl ar addysg, perthnasoedd a ffordd o fyw gyffredinol. Mae pryder hefyd am effaith nicotin ar yr ymennydd sy'n datblygu.  

Yn ogystal â fepio cyfreithiol, mae cynhyrchion fepio anghyfreithlon nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau'r DU ar gael yn rheolaidd ar y stryd fawr. Maent yn aml yn cynnwys lefelau uwch o nicotin na'r hyn a ganiateir gan y gyfraith. Canfuwyd hefyd eu bod yn cynnwys cemegion niweidiol a metelau trwm fel plwm, nicel a chromiwm. Yn yr un modd, ceir pryderon bod cynhyrchion yn cael eu gwerthu'n anghyfreithlon i bobl o dan 18 oed. 

Mae'r mater hwn wedi ysgogi Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid, i sefydlu Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad (IRG), sy'n cael ei ddefnyddio'n fwy cyffredin i drefnu'r gwaith o gyfyngu ar ddigwyddiadau clefydau trosglwyddadwy ar frys. Mae'r IRG yn grŵp amlasiantaethol sy'n cynnwys arbenigwyr o amrywiaeth o feysydd perthnasol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, darparwyr Rhoi'r Gorau i Smygu, Ash Cymru, Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru, arbenigwyr pediatrig ac anadlol y GIG a chynrychiolwyr Addysg ac Ysgolion.   

Bydd yr IRG yn mynd ati ar unwaith i gasglu tystiolaeth i gadarnhau'r digwyddiad, cael safbwynt ynghylch ei gwmpas, ac ymchwilio i'r achosion a'u nodi. Yna bydd y grŵp yn gwneud argymhellion i leihau'r risg o niwed parhaus a darparu cyfleoedd ar gyfer camau ar y cyd i fynd i'r afael â'r broblem. 

Meddai Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chadeirydd yr IRG: “Nid yw fepio wedi bodoli'n ddigon hir i'r risgiau defnydd hirdymor gael eu deall yn llawn yn enwedig ymhlith pobl ifanc lle gall fod mwy o risgiau i'r ymennydd sy'n datblygu. 

“Yn anffodus, mae rhywfaint o dystiolaeth bod y defnydd o gynnyrch fepio yn tyfu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac mae ysgolion yn gynyddol yn codi pryderon am yr effaith y mae fepio'n ei chael ar addysg rhai pobl ifanc. 

“Bydd sefydlu'r grŵp ymateb i ddigwyddiad yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael dealltwriaeth o raddau'r broblem hon ar hyn o bryd, yn ogystal â nodi cyfleoedd gyda phartneriaid ym maes addysg, gofal iechyd a Llywodraeth Cymru i atal niwed pellach cyn gynted â phosibl.”