Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas ac mae ganddynt iechyd meddwl gwaeth na'r boblogaeth gyffredinol

Cyhoeddwyd: 25 Gorfennaf 2023

Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a phrofiadau gwledydd wedi canfod bod gan geiswyr lloches, ffoaduriaid, a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli ganlyniadau iechyd meddwl gwaeth na rhai'r boblogaeth gyffredinol.

Mae'r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol 45: Iechyd Meddwl a Llesiant Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, hefyd yn rhoi mewnwelediadau o'r Almaen, Iwerddon, yr Iseldiroedd a Sweden ar ddulliau arloesol ac effeithiol o fynd i'r afael ag iechyd meddwl a llesiant pobl sydd wedi'u dadleoli.    

Mae llawer o'r heriau iechyd meddwl a llesiant a nodwyd yn ymwneud â phrofiadau pobl cyn ac ar ôl gadael eu gwledydd cartref. Yn aml, maent yn profi colled bersonol sylweddol, caledi corfforol a sefyllfaoedd eraill o straen o ganlyniad i'w dadleoli. Maent yn aml yn wynebu amodau byw, tai a gweithio gwael. Mae'r straen ychwanegol yn cynnwys diffyg gwybodaeth, ansicrwydd ynghylch statws mewnfudo, gelyniaeth leol bosibl, polisïau llywodraeth sy'n newid, a chael eu cadw heb urddas ac am gyfnodau hir. Mae cyfraddau anhwylderau sy'n gysylltiedig â straen eithafol, fel anhwylder straen wedi trawma (PTSD), yn uwch mewn ffoaduriaid a phobl wedi'u dadleoli na'r boblogaeth gyffredinol. Gallant hefyd ddioddef o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). 

Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas y gellir ei wella ymhellach drwy sicrhau eu bod mewn iechyd corfforol a meddyliol da drwy ddarparu mynediad at wasanaethau sylfaenol, diogelwch a chymorth cymdeithasol. 

Meddai Dr Mariana Dyakova, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd Iechyd Rhyngwladol: “Mae gwella llesiant y poblogaethau hyn yn gofyn am ofal iechyd hygyrch, cymorth cymdeithasol, a mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd. Gall y cymorth hwn ddigwydd mewn amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael â materion ymarferol, fel rhwystrau ieithyddol ac anawsterau o ran cael gafael ar wasanaethau, i liniaru materion diwylliannol a chymdeithasol drwy roi cymorth i helpu i integreiddio i gymunedau lleol neu ymuno â rhwydweithiau presennol o bobl sydd â phrofiadau byw tebyg. Mae meithrin partneriaethau strategol ar draws Iechyd, Cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, a chynnwys darpariaethau mewn strategaethau a pholisïau cenedlaethol, yn hanfodol i fynd i'r afael ag anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches.”  

Yn 2019, datblygodd Llywodraeth Cymru y cynllun ‘Cenedl Noddfa’  sy'n amlinellu'r gwaith sy'n cael ei wneud ledled Cymru i sicrhau bod anghydraddoldebau a brofir gan geiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael eu lleihau; a gwella mynediad at gyfleoedd ar gyfer addysg, cyflogaeth, cysylltu ac integreiddio â chymunedau lleol a gwneud ffrindiau.  

Comisiynwyd yr Adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o'n hymateb i COVID-19 ond ers hynny maent wedi'u hymestyn i drafod pynciau iechyd cyhoeddus â blaenoriaeth, gan gynnwys gwella a hybu iechyd a diogelu iechyd. 

Mae'r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Mae Iechyd Meddwl a Llesiant Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn rhoi crynodeb lefel uchel o ddysgu o brofiadau bywyd go iawn o wledydd dethol, ac amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol a llwyd.