Neidio i'r prif gynnwy

Mae digwyddiad sy'n dathlu arfer da wrth fwydo babanod yn galw am ddull system gyfan yng Nghymru

Cyhoeddig: 27 Rhagfyr

Gwnaeth Arweinydd Cenedlaethol Cymru ar gyfer Bwydo ar y Fron ddod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, i rannu enghreifftiau o arfer da a hyrwyddo dull system gyfan o fwydo babanod. Gall annog arfer gorau wrth fwydo babanod helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru, ac amlygodd y digwyddiad fod rôl i lawer o wasanaethau iechyd a lleoliadau i annog rhieni a'r rhai sy'n rhoi gofal i wneud dewisiadau gwybodus.

Daeth y digwyddiad “Bright Spots” ag aelodau o Rwydwaith Bwydo Babanod Cymru a thimau iechyd cyhoeddus lleol at ei gilydd i ddathlu arloesedd ac arfer da wrth fwydo babanod, gyda siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau'n cyflwyno.

Cyfeiriodd y digwyddiad at y weledigaeth strategol a nodir yn y Cynllun Gweithredu 5 Mlynedd Cymru Gyfan ar Fwydo ar y Fron. Mae ymchwilwyr iechyd cyhoeddus wedi amlygu bod bwydo ar y fron yn bwysig i iechyd a datblygiad babanod ac mae'n ddull hygyrch a chosteffeithiol o atal amrywiaeth o glefydau heintus a chlefydau anhrosglwyddadwy, fel gordewdra ymhlith plant a diabetes math 2. Mae cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron hefyd yn cyfrannu at strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys byrddau iechyd gyflwyno yn y digwyddiad. Ymhlith y pynciau roedd gweithio mewn partneriaeth gyda Dewis Cymru i hyrwyddo a gwella'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yng ngogledd Cymru; cyflawni achrediad Menter Cyfeillgar i Fabanod yng ngwasanaethau newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chyflwyniad i'r ymyriad JIGSO ar gyfer mamau agored i niwed ac ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Meddai Rachel Evans, Bydwraig Arweiniol Genedlaethol Bwydo ar y Fron yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Ar ôl sawl blwyddyn o fethu cwrdd wyneb yn wyneb, roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i rannu a dysgu am rywfaint o'r gwaith sy'n digwydd ledled Cymru i hyrwyddo'r bwydo babanod gorau posibl.

Rydym wrth ein boddau bod 90 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol wedi clywed am waith y maent yn bwriadu ei ailadrodd yn eu hardal leol, a byddai 100 y cant ohonynt yn argymell y digwyddiad i gydweithiwr.”

Gellir dod o hyd i fanylion y cyflwyniadau a roddwyd yn y digwyddiad ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.