Neidio i'r prif gynnwy

Mae cau'r bwlch cyrhaeddiad addysgol yn cynnig manteision posibl ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch

Cyhoeddig: 30 Tachwedd 2023

Mae offeryn sydd wedi'i gynllunio i gynyddu dealltwriaeth o'r ffactorau cysylltiedig sy'n effeithio ar gyflawniad addysgol plentyn ac adolygiad o'r mecanweithiau o ran sut y mae hyn yn effeithio ar iechyd wedi'i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae addysg a sgiliau da yn floc adeiladu ar gyfer iechyd a llesiant. Fodd bynnag, nid yw pob plentyn a pherson ifanc yn cael yr un cyfle ar gyfer dysgu ac mae bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng plant o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol. 

I ddeall hyn ymhellach, mae'r Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi archwilio'r hyn sy'n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru a'r ffyrdd y mae addysg yn effeithio ar iechyd. Mae'r gwaith hwn yn dangos y berthynas agos rhwng iechyd ac addysg, ac na ellir lleihau'r bwlch economaidd-gymdeithasol mewn cyrhaeddiad yng Nghymru gael ei wneud gan ysgolion yn unig. 

Gan gynnwys arbenigwyr pwnc a phartneriaid amrywiol, mae'r tîm wedi mapio'r ffactorau sy'n effeithio ar gyflawniad addysgol. Mae'r map hwn yn disgrifio sut y mae llesiant meddyliol plentyn, ymgysylltu â'r ysgol a'r amgylchedd dysgu yn y cartref yn cyfrannu at gyflawniad addysgol. Mae'r rhain yn eu tro yn cael eu dylanwadu gan amrywiaeth eang o ffactorau teuluol, cartref a chymdeithasol, gan gynnwys rhai sy'n dechrau cyn i blentyn gael ei eni.   

Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar addysg, ond mae ymchwil yn dangos sut y mae addysg yn effeithio ar iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd, drwy dri phrif lwybr. Y rhain yw cyflogaeth ac incwm da, ffactorau cymdeithasol a seicolegol, a gwybodaeth ac ymddygiad iechyd. Fodd bynnag, er y gall cyflawniad addysgol fod yn ysgogydd pwysig o ran cyfle, gall hefyd gyfrannu at fwy o anghydraddoldebau iechyd drwy barhau â chylchoedd o annhegwch rhwng cenedlaethau.  

Meddai Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yng Nghymru, mae gormod o bobl yn marw'n rhy gynnar oherwydd diffyg blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer iechyd. Mae addysg yn un o'r seiliau hyn ar gyfer iechyd. Pan fyddwn yn cael addysg dda, mae'n rhoi'r cyfle i ni gael swydd dda ac arian i brynu'r hyn sydd ei angen arnom ar gyfer iechyd da, fel bwyd a gwres. Mae hyn hefyd yn lleihau straen a all effeithio ar ein hiechyd meddyliol a chorfforol.  

“Ni allwn ddisgwyl i ysgolion ddatrys problem y bwlch cyrhaeddiad addysgol ar eu pen eu hunain. Mae angen i bartneriaid weithio gyda’i gilydd i wella cyfleoedd ar gyfer dyfodol ein cymunedau, gan nodi iechyd ac addysg fel nodau a rennir. Gall hyn ddigwydd drwy gefnogi dysgwyr, teuluoedd, a chymunedau drwy fentrau sy'n cryfhau dull ysgol gyfan o ran iechyd a llesiant yn ogystal ag ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Yn ogystal, mae'n mynd y tu hwnt i'r ysgol o ran sut rydym yn cynllunio ein systemau tai, a natur gwaith i rieni a all effeithio ar y cyfleoedd i blant, yn enwedig y rhai sy'n wynebu anfantais, i ffynnu, dysgu a thyfu.”