Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen cymorth cam-drin domestig a gweithio mwy hyblyg ar fenywod yn ystod argyfyngau iechyd cyhoeddus

Cyhoeddig: 18 Rhagfyr 2023

Mae angen i gyflogwyr wneud mwy i hyrwyddo gweithio hyblyg i fenywod, a rhoi cymorth i liniaru yn erbyn trais a cham-drin domestig yn ystod argyfyngau fel pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad, ‘effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd’, yn amlygu sut roedd anghydraddoldebau presennol sy'n wynebu menywod wedi gwaethygu ac effeithio ar eu bywydau gwaith yn ystod pandemig Covid-19.

Mae'n amlygu cyfleoedd i gyflogwyr a’r llywodraeth weithredu i wella iechyd a llesiant menywod, gan gynnwys mynd i'r afael ag amodau gwaith, colli incwm anghyfartal, a chymorth ar gyfer cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth.

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein gwaith yn amlygu effaith glir a hirhoedlog o bosibl pandemig Covid-19 ar fenywod, ac yn enwedig menywod yn y gweithlu.  Er ei fod yn gyfle pwysig i edrych yn ôl, credwn fod y canfyddiadau hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i gyflogwyr a llywodraethau wrth ystyried parodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol.

“Rydym wedi amlygu sawl maes allweddol ar gyfer ymchwil yn y dyfodol sy'n cydnabod yr anghydraddoldebau presennol sy'n wynebu menywod. Mae hyn yn cynnwys nodi sut yr effeithiodd y pandemig ar grwpiau incwm isel ac unig rieni sy'n fenywod, o ystyried yr heriau sylweddol a achoswyd gan fenywod yn newid rolau ac yn gweithio gartref.

“Yn ogystal, mae angen archwilio effeithiau tymor hwy trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ochr yn ochr â'r argyfwng costau byw parhaus.

“Wrth i amser fynd rhagddo, mae angen i ni barhau i gasglu tystiolaeth ar effaith y diwylliant cyflogaeth sy'n newid ar lesiant menywod a'u datblygiad gyrfa, i sicrhau nad yw menywod yn ei chael yn anoddach ailymuno â'r economi ar ôl y pandemig”. 

Yn ystod y pandemig roedd dros dri chwarter y gweithwyr mewn rolau risg uchel (gan gynnwys gweithwyr gofal, nyrsys, gweithwyr meddygol proffesiynol, parafeddygon, fferyllwyr a bydwragedd) yn fenywod.  Roedd 98 y cant o'r rhai sy'n ymgymryd â'r rolau hyn ac yn cael eu talu o dan y cyflog canolrif yn fenywod.

Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr a nhw yw mwyafrif yr unig rieni, ond er gwaethaf hyn mae hanner y ceisiadau am weithio hyblyg gan famau sy'n gweithio yn cael eu gwrthod. Yn ogystal â'r heriau yn y gweithlu, gwelodd Refuge (sefydliad cam-drin domestig mwyaf y DU) gynnydd o 60 y cant mewn galwadau misol yn ystod cyfnod y pandemig ac roedd disgwyl i lawer o fenywod weithio gartref neu gael eu rhoi ar ffyrlo a gynyddodd eu hamlygiad i drais a cham-drin domestig. Mae'r ffigurau hyn yn rhoi darlun heriol o iechyd a llesiant economaidd, meddyliol a chorfforol menywod.

Effeithiodd y pandemig ar fenywod yn anghyfartal yn dibynnu ar nodweddion fel oedran, ethnigrwydd, anabledd neu fod yn unig riant, gyda llawer o fenywod yn meddu ar nodweddion lluosog sy'n croestorri. Effeithiwyd yn anghymesur ar fenywod ifanc oherwydd cau ysgolion, colegau neu brifysgolion, a chafwyd mai menywod hŷn oedd fwyaf tebygol o adael y gweithlu yn ystod y pandemig gyda chanlyniadau ariannol o ganlyniad i hynny. Roedd menywod anabl yn fwy agored i niwed yn sgil canlyniadau anfwriadol cyfyngiadau symud oherwydd eu lefelau uwch o broblemau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, ynysigrwydd cymdeithasol ac allgáu digidol, a chanfu un adroddiad bod canran uwch o fenywod o leiafrifoedd ethnig yn ansicr ynghylch lle i droi am gymorth ariannol o gymharu ag unigolion gwyn. 

Er bod rhai effeithiau yn gadarnhaol i rai, fel symud i weithio mwy hyblyg a gweithio gartref, mae'r effeithiau negyddol wedi arwain at sawl cam gweithredu a awgrymir i gyflogwyr a'r system iechyd a gofal ehangach eu cymryd.

Yn y gweithle, mae angen mwy o gymorth ar gyfer gweithio hyblyg a dylai cyflogwyr geisio sicrhau y gall menywod roi gwybod am unrhyw broblemau sydd ganddynt yn ddiogel. Gan feddwl ymlaen at barodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol, mae angen i gyflogwyr gydnabod y straen emosiynol a meddyliol ar fenywod mewn argyfyngau iechyd cyhoeddus. Yn ehangach, er mwyn lliniaru yn erbyn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) mae angen cynyddu mynediad at wasanaethau i fenywod ar draws iechyd a systemau cymorth eraill, a chydgysylltu'r gwasanaethau hyn.