Iechyd dros y gaeaf: sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth

Gall gweithredoedd gan unigolion, cymunedau a sefydliadau gael effaith fawr ar gadw pobl yn iach yn ystod y gaeaf.

Mae adroddiad newydd ar wella iechyd dros y gaeaf, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cydnabod effeithiau ffactorau tymhorol traddodiadol sy'n achosi iechyd gwael fel ffliw ac anafiadau oherwydd cwympiadau. Fodd bynnag, mae hefyd yn canfod bod materion ehangach fel tlodi, tai gwael ac ymddygiad afiach yn chwarae rhan sylweddol. 

Mae gan Gymru, fel llawer o wledydd eraill, lefelau uwch o salwch a marwolaeth yn ystod misoedd y gaeaf. Yn ystod gaeaf 2017-18 gwelwyd 3,400 o farwolaethau o gymharu â gweddill y flwyddyn yn sgil cyflyrau fel clefyd yr ysgyfaint, clefyd y galon a chylchredol, dementia a chwympiadau. Mae pobl hŷn a'r rhai â phroblemau iechyd hirdymor mewn perygl arbennig o iechyd sy'n gwaethygu o ganlyniad i dywydd oer.  

Meddai Dr Frank Atherton, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru:

“Gall hyd yn oed tymereddau cymharol oer o 8°C, yr ydym eisoes yn eu profi yng Nghymru, achosi problemau iechyd, yn enwedig ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd hirdymor. Er y gall swnio'n amlwg, gall gweithredoedd syml fel lapio amdanoch a gwisgo het, sgarff a menig wneud gwahaniaeth mawr. 
“Mae hefyd yn bwysig cadw tymereddau dan do dros 18°C oherwydd gwyddom fod cartrefi oer yn niweidio iechyd. A dylai unigolion sy'n cael cymorth ariannol hefyd sicrhau eu bod yn cael mynediad i'r arian y mae ganddynt hawl iddo, a all helpu gyda chost gwresogi.

“Mae cael y brechiad rhag y ffliw os ydych dros 65 oed, neu os oes gennych broblem iechyd, yn blentyn neu'n feichiog yn un o'r ffyrdd eraill mwyaf effeithiol o gadw'n iach dros y gaeaf. Gall atal lledaeniad heintiau drwy olchi eich dwylo'n rheolaidd a pheidio â mynd i'r gwaith neu'r ysgol os oes gennych symptomau'r ffliw wneud gwahaniaeth gwirioneddol hefyd.” 

Mae’r adroddiad yn canfod y gall unigolion, eu cymunedau a rhwydweithiau cymorth, a sefydliadau o sectorau gwahanol i gyd gymryd camau gweithredu i helpu i gadw pobl yn iach yn ystod tymor y gaeaf. Er enghraifft, gall unigolion yn eu cymunedau helpu drwy gadw llygad ar berthnasau hŷn, ffrindiau neu gymdogion a allai fod yn ynysig dros fisoedd y gaeaf. 

Mae adborth gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn amrywiaeth o wasanaethau a sectorau ledled Cymru wedi helpu i nodi rhai o'r heriau a'r atebion i wella iechyd dros y gaeaf a lleihau'r galw ar wasanaethau iechyd a gofal. Mae'r rhain yn cynnwys cynorthwyo cydnerthu cymunedol, helpu pobl ag afiechydon hirdymor i hunanreoli eu cyflyrau, a symud i gynllunio parhaus ar sail atal yn hytrach na chanolbwyntio ar baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf. 

Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector hefyd yn lleihau'r angen am dderbyniadau i'r ysbyty a gall helpu cleifion i gael eu rhyddhau yn gynt ac yn ddiogel o'r ysbyty. 

Meddai Dr Sumina Azam, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus:

“Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol i newid sut rydym yn edrych ar iechyd dros y gaeaf ac yn meddwl amdano. Drwy ddeall yr hyn sy'n achosi i bobl fynd yn sâl yn y gaeaf, a chanolbwyntio ar gadw pobl yn iach gyda chymorth yn eu cymunedau lleol, gwyddom y gall fod budd gwirioneddol i lesiant pobl Cymru.”

Dadlwythiadau