Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â hyb ymchwil ymddygiadol newydd

Cyhoeddig: 9 Tachwedd 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gyhoeddi ei rôl wrth sefydlu Ymchwil Ymddygiadol y DU (BR-UK), sef menter drawsnewidiol a fydd yn helpu i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd yn y DU.  

Mae'r hyb yn cael ei sefydlu yn dilyn hwb ariannol £13 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), gan nodi cynnydd enfawr ym maes ymchwil ymddygiadol yn y Deyrnas Unedig.  Cafodd yr Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ei gwahodd i ymuno â'r consortiwm a helpodd i ddatblygu'r cynnig llwyddiannus am gyllid ochr yn ochr â chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.  

Mae deall ymddygiad dynol a sut y mae'n llunio sefydliadau, cymunedau a chymdeithasau yn hanfodol i fynd i'r afael â heriau byd-eang presennol ac yn y dyfodol. Bydd rhaglen gyllido pum mlynedd ESRC yn cynorthwyo BR-UK i adeiladu cymuned ymchwil ymddygiadol i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan ysgogi arloesedd rhyngddisgyblaethol yn y maes. 

Bydd BR-UK yn cael ei gyd-arwain gan arbenigwyr cydnabyddedig ym maes ymchwil ymddygiadol Yr Athro Linda Bauld, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Bruce a John Usher yn Sefydliad Usher Prifysgol Caeredin, a Phrif Gynghorydd Polisi Cymdeithasol i Lywodraeth yr Alban a'r Athro Susan Michie, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newid Ymddygiadol yng Ngholeg Prifysgol Llundain. 

Mae sefydlu BR-UK yn seiliedig ar gydweithrediad o academyddion blaenllaw ar draws sbectrwm o ddisgyblaethau, sy'n rhychwantu wyth prifysgol, ar draws y DU.  Mae'r consortiwm hefyd yn cynnwys ymgysylltu gweithredol â chyrff llywodraeth o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, ochr yn ochr ag asiantaethau a sefydliadau sy'n croestorri â meysydd fel trafnidiaeth, diogelwch bwyd, diogelu iechyd, cyfathrebu, entrepreneuriaeth, a mwy. 

Bydd y cydweithrediad yn rhoi arweinyddiaeth i harneisio, cysylltu ac ymestyn capasiti a gallu presennol y DU ym maes ymchwil ymddygiadol, gan gefnogi'r gwaith o symud ymchwil i bolisi ac ymarfer. 

Bydd y cyllid £13 miliwn a gyhoeddwyd gan yr ESRC yn ganolbwynt i ymrwymiad y cyngor i feithrin ymchwil gwyddor ymddygiad yn y Deyrnas Unedig. Mae'r bartneriaeth yn ceisio symbylu arloesedd, hyrwyddo cydweithredu rhyngddisgyblaethol, ac ysgogi'r gwaith o drosi mewnwelediadau ymchwil i bolisi a chymwysiadau ymarferol. 

Meddai Ashley Gould, Cyfarwyddwr Rhaglen Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae ein cyfranogiad yn BR-UK yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella canlyniadau iechyd cyhoeddus drwy'r defnydd rheolaidd o wyddor ymddygiad. Rydym yn falch ein bod wedi cael ein gwahodd i ymuno â'r consortiwm ers ei sefydlu, ac i gyfrannu at gais buddugol ar gyfer y fenter drawsnewidiol hon. 

"Mae'r cyllid ESRC a sefydlu BR-UK yn gyfle enfawr i hyrwyddo ymchwil ymddygiadol. Bydd ein cyfranogiad yn y consortiwm yn ein galluogi i roi mewnbwn i ymchwil ymddygiadol flaenllaw i gynyddu effaith polisïau iechyd cyhoeddus a chymdeithasol a gwireddu'r ymchwil hon." 

Mae creu BR-UK yn addo chwyldroi ymchwil gwyddor ymddygiad a'i heffaith ar bolisi iechyd cyhoeddus a chymdeithasol. Drwy harneisio arbenigedd cyfunol sefydliadau blaenllaw a rhanddeiliaid llywodraethol, mae'r fenter hon mewn sefyllfa i ysgogi arloesedd a chreu dylanwad parhaol ar fywydau unigolion a chymunedau ar draws y Deyrnas Unedig.