Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i achosion o hepatitis

Cyhoeddwyd: 6 Ebrill 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus yr Alban (PHS), Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd (Gogledd Iwerddon) ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) er mwyn ymchwilio i achosion o hepatitis acíwt mewn plant.

Nid yw'r hyn sydd wedi achosi'r rhain yn hysbys eto, ond mae'r achosion mwyaf cyffredin o feirysau hepatitis wedi'u diystyru.

Nid oes unrhyw achosion hysbys yng Nghymru sy'n destun ymchwiliad gweithredol ar hyn o bryd, ond roedd nifer bach iawn o achosion yn gynharach eleni yn cyfateb i'r cyflwyniad clinigol.  Nid oes cysylltiad hysbys â theithio.

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Gall hepatitis achosi clefyd melyn a llid yr afu, felly dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o symptomau clefyd melyn – gan gynnwys arlliw melyn ar y croen sydd fwyaf amlwg yng ngwyn y llygaid.

“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â hyn a symptomau eraill hepatitis yn sgil yr achosion hyn yn y DU.

“Atgoffir rhieni a gofalwyr y dylent gadw eu plant i ffwrdd o'r ysgol a gofyn am gyngor gan feddyg teulu neu arbenigwr priodol os bydd eu plentyn yn profi unrhyw symptomau sy'n gysylltiedig â hepatitis.”
Mae symptomau hepatitis yn cynnwys:
•    wrin tywyll
•    ysgarthion gwelw, lliw llwyd
•    croen coslyd
•    llygaid a chroen yn troi'n felyn (clefyd melyn)
•    poen yn y cyhyrau a'r cymalau
•    tymheredd uchel
•    chwydu a theimlo'n sâl
•    teimlo'n anarferol o flinedig drwy'r amser
•    colli archwaeth
•    poen yn y bol