Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu arfer gorau'r pandemig wrth i gyllid gael ei ymestyn am flwyddyn arall

Cyhoeddwyd: 4 Ebrill 2022 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i rannu ei arbenigedd a'i brofiad er mwyn sicrhau amgylcheddau mwy diogel drwy feithrin gallu ar draws sectorau, cyfnewid gwybodaeth ac arfer gorau, diolch i estyniad i brosiect Gweithredu ar y Cyd SHARP.

Mae Gweithredu ar y Cyd SHARP, y prosiect tair blynedd a gynlluniwyd yn wreiddiol i redeg o 2019 i fis Mawrth 2022, yn parhau wrth i'r Comisiwn Ewropeaidd ymestyn y rhaglen mewn ymateb i'r pandemig a'i effaith ar adnoddau i gwblhau'r gwaith pwysig hwn.   

Mae'r ymateb byd-eang i COVID-19 wedi amlygu gwendidau a heriau mawr yn y dull rhyngwladol o reoli argyfyngau iechyd cyhoeddus ac mae'r Gweithredu ar y Cyd bellach wedi'i amserlennu i orffen ym mis Mawrth 2023.  

Meddai'r Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Giri Shankar MBE, ”Pan gyrhaeddodd COVID-19 ac oedi'r cynnydd ar draws y pecynnau gwaith, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hyblyg o ran ailganolbwyntio ar fodloni un o nodau sylfaenol y Gweithredu ar y Cyd drwy gefnogi'n benodol y gwaith o feithrin capasiti traws-sectoraidd, cyfnewid gwybodaeth ac arfer gorau.  Cyflawnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hyn drwy gyflwyno gweithdai ar Gyfathrebu Risg lle cafodd egwyddorion ar gyfer cyfathrebu effeithiol a'r arfer gorau a ddefnyddiwyd yng Nghymru eu rhannu.  Roedd y digwyddiadau hyn hefyd yn meithrin dealltwriaeth o reoli'r pandemig y tu allan i Gymru drwy roi llwyfan i aelod-wladwriaethau'r UE rannu eu profiadau a'u dull gweithredu. 

 “Ar y cyfan, mae'r cydweithio ac aelodaeth o grŵp llywio SHARP JA wedi meithrin dealltwriaeth ddyfnach o heriau parodrwydd mewn perthynas â COVID-19 ar draws partner-wladwriaethau sy'n llywio ein ffordd o feddwl yma yng Nghymru.   

“Er gwaethaf Brexit, mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi golygu bod Cymru yn parhau i gyfrannu at Gydweithrediad SHARP a chael budd o gymryd rhan ynddo, gan feithrin a pharatoi gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a llesiant ledled Cymru.”  

Cafodd cynnwys y gweithdy dderbyniad da ac mae wedi ysgogi gwahoddiadau i gyflwyno mewn digwyddiadau rhyngwladol eraill. 

Wedi'i gyd-ariannu gan 3edd Raglen Iechyd yr Undeb Ewropeaidd, ystyr “SHARP” yw Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol a Pharodrwydd Cryfach yn yr UE (SHARP JA) a’i ddiben yw cryfhau parodrwydd yn yr UE yn erbyn bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd, gan ddefnyddio fframwaith Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol (IHR, 2005). Mae galluoedd craidd IHR wedi'u cynllunio i atal, canfod ac ymateb i fygythiadau i iechyd pobl sy'n dod o achosion biolegol, halogiad cemegol, bygythiadau amgylcheddol ac anhysbys i iechyd pobl.  Nid oes gan fygythiadau o'r fath unrhyw ffiniau. 

Mae SHARP yn gweithio i gryfhau galluoedd IHR presennol yr aelod yn ogystal â chefnogi gwella mewn gwledydd lle mae bylchau galluogrwydd IHR yn bodoli.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ar y pecyn gwaith cyfathrebu a lledaenu.  Mae’n dod â gwybodaeth, profiad ac arbenigedd i'r dasg o welededd, ymwybyddiaeth a derbyn y prosiect i fap eang o randdeiliaid. Mae hwyluso cyfathrebu effeithiol ar draws 26 o bartneriaid cysylltiedig a 35 o endidau cyswllt mewn tri deg o wledydd (24 aelod o'r UE, tri aelod EEA/EFTA a thair gwlad sy'n ffinio â Ewrop) yn gymhleth, ond yn hanfodol. Mae ei aelodau yn cynrychioli sefydliadau iechyd cyhoeddus ar draws Ewrop gyda'r profiad a'r ddealltwriaeth eang o'r materion cymhleth dan sylw, a'r mewnwelediad strategol ac annibynnol i ddarparu ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau ar lunio polisïau.

Dolen