Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd

Cyhoeddig: 4 Rhagfyr 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cam gan uwchgynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yr wythnos hon i ganolbwyntio ar iechyd am y tro cyntaf. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio y tu mewn a'r tu allan i'n sefydliad i wella cynaliadwyedd a lleihau effaith newid hinsawdd ar iechyd y genedl. Mae newid hinsawdd wedi'i nodi fel y bygythiad iechyd mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth. Mae'n bygwth cynhwysion hanfodol iechyd da – aer glân, dŵr yfed diogel, cyflenwad o fwyd maethlon a lloches ddiogel ac mae ganddo'r potensial i danseilio degawdau o gynnydd ar iechyd cyhoeddus byd-eang.  

Mae mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus yn flaenoriaeth strategol i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am helpu GIG Cymru i gyrraedd ei darged o sero net erbyn 2030. Rydym yn helpu i leihau'r effaith ar y blaned; drwy ein strategaeth, ymchwil ac asesiadau o'r effaith ar iechyd yn ogystal â thrwy fesurau ymarferol yn ein swyddfeydd a thrwy ein hyrwyddwyr gofal sylfaenol. 

Eleni, tynnodd ein gwaith sylw at y ffaith bod rhai cymunedau yng Nghymru yn debygol o gael eu heffeithio'n fwy gan newid hinsawdd nag eraill, a rhai yn llai tebygol o allu cymryd camau gweithredu i ymateb i'r newidiadau hyn. Mae'r rhain yn cynnwys cartrefi incwm is, y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sy'n dioddef llifogydd yn rheolaidd, a phobl sy'n byw gydag anableddau neu gyflyrau cronig (hirdymor), a'u gofalwyr.  Mae effeithiau newid hinsawdd yn debygol o wneud anghydraddoldebau iechyd presennol yng Nghymru yn waeth. 

Drwy rwydwaith o hyrwyddwyr lleol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda darparwyr gofal sylfaenol i wella cynaliadwyedd amgylcheddol eu harferion o ddydd i ddydd. Mae hyn yn rhan o Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae'r prosiect wedi gweld meddygfeydd, fferyllfeydd cymunedol, practisau deintyddol ac optometreg yn newid eu ffyrdd o weithio i leihau eu heffaith ar y blaned. P'un a yw hynny drwy osod paneli solar ar y to, lleihau gwastraff plastig neu newid i oleuadau LED, mae pob gweithred yn gwneud gwahaniaeth. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi canolbwyntio ar ei adeiladau ei hun hefyd, gan gefnogi ffyrdd newydd o weithio wrth leihau ein hôl troed carbon. Gwnaethom adael dau adeilad yng Nghaerdydd a Mamhilad a 5ed llawr y Cwr y Ddinas 2, Caerdydd, gan arbed 18 tunnell o allyriadau carbon. Mae gwaith wedi dechrau i adael gofod swyddfa yng Nghaerfyrddin a fydd yn arbed 36 tunnell o garbon. Wrth adael mannau rydym yn parhau i gefnogi'r economi gylchol drwy ailgylchu a thrwy roi dodrefn i'r gymuned leol.  

Rydym wedi nodi newidiadau y gellid eu gwneud i leihau allyriadau mewn offer untro yn ein labordai microbioleg a byddwn yn rhannu ein canfyddiadau ar draws y sector gofal iechyd ehangach. Rydym hefyd yn cymryd rhan weithredol yn y Rhwydwaith Iechyd Gwyrdd, gan weithio gyda phartneriaid ym mhob lleoliad gofal iechyd ledled Cymru i leihau allyriadau carbon.  

Rydym hefyd yn annog ein staff i gymryd camau gweithredu unigol i ddiogelu'r blaned, fel teithio llesol ac ailgylchu ac ailddefnyddio mwy. Rydym wrthi'n cynnal her i'r staff feddwl am ffyrdd newydd y gallwn wneud ein gwaith yn fwy cynaliadwy. 

Meddai Dr Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Rydym yn gwybod drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn i gyd wneud rhywbeth i gefnogi dyfodol gwyrddach gyda'r manteision iechyd y gall ei gynnig. Gallwn a rhaid i ni weithredu nawr i leihau effaith newid hinsawdd ar ein hiechyd a'n llesiant corfforol a meddyliol.”