Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio adroddiadau adolygiad cyflym arddull newydd

Cyhoeddwyd: 12 Ionawr 2023

Mae Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu adroddiad arddull newydd, wedi'i ddylunio i roi trosolwg cyflym o dystiolaeth mewn meysydd o ddiddordeb i wneuthurwyr polisi, gan roi llinell sylfaen gadarn iddynt o'r ymchwil bresennol ar gyfer gweithredu.

Mae'r adroddiadau'n cael eu hysgogi'n bennaf gan anghenion rhanddeiliaid a hefyd y dystiolaeth a nodwyd. Mae'r dull pragmatig hwn yn ceisio asesu'r sylfaen dystiolaeth yn gyflym gan ddefnyddio methodoleg systematig i lunio trosolwg tryloyw o'r dirwedd dystiolaeth lefel eilaidd y gellir ei defnyddio i lywio gwaith pellach. Maent yn ddefnyddiol er mwyn helpu i fireinio cwestiwn eang, yn ogystal â nodi bylchau posibl yn y dystiolaeth.  

Yn dibynnu ar gwmpas y cais, fel arfer gellir cynnal y rhain o fewn un i dri mis. 

Meddai Hannah Shaw, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth ar gyfer Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae'r adroddiadau cwmpasu hyblyg newydd hyn yn ychwanegiad cyffrous i'r amrywiaeth helaeth o adroddiadau rydym yn eu datblygu ar gyfer gwneuthurwyr polisi. 

“Maent wedi'u cynllunio i roi trosolwg o'r dystiolaeth sydd ar gael ac oherwydd ein bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid o'r dechrau gellir teilwra'r rhain yn llwyr i feysydd diddordeb rhanddeiliaid. Er nad ydynt yn nodi'r holl ymchwil sydd ar gael, na bob amser yn cyffredinoli canfyddiadau i gyd-destun Cymreig, maent yn rhoi darlun gwerthfawr o dystiolaeth ddibynadwy ar bwnc ac yn nodi meysydd penodol o ddiddordeb er mwyn i randdeiliaid ddatblygu a llywio eu gwaith.  

“Yn bwysig, oherwydd eu bod yn defnyddio'r dystiolaeth lefel eilaidd, sydd fel arfer yn adolygiadau systematig o ansawdd da sy'n bodoli eisoes, yn aml rydym yn gallu darparu'r adroddiad yn llawer cyflymach na'r hyn fyddai'n bosibl ar gyfer mathau eraill o waith tystiolaeth.” 

Mae'r Gwasanaeth Tystiolaeth eisoes wedi datblygu nifer o'r adroddiadau hyn, a byddai'n croesawu adborth gan ddefnyddwyr, y gellir ei anfon i evidence.service@wales.nhs.uk   

Dyma enghreifftiau o rai o'r adroddiadau presennol: