Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cynllun i ddileu smygu yn raddol

Meddai Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog i ganiatáu pleidlais rydd yn Senedd y DU ar godi oedran cyfreithiol smygu o un flwyddyn.  Mae smygu yn parhau i fod yn ffactor o bwys o ran marw cyn pryd, salwch y gellir ei osgoi ac anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.  Roedd smygu yn gysylltiedig â thros 5,000 o farwolaethau a bron un o bob 20 o dderbyniadau i'r ysbyty yn y rhai dros 35 oed yng Nghymru yn 2018.

“Er bod nifer yr achosion o smygu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi gostwng dros yr hirdymor, mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod saith y cant o blant Blwyddyn 11 yng Nghymru yn smygu o leiaf bob wythnos yn 2021.  Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n smygu yn dechrau yn ifanc.  Mae polisïau blaenorol i godi oedran smygu wedi bod yn effeithiol o ran lleihau nifer y bobl sy'n dechrau smygu a chyfanswm nifer y bobl sy'n smygu yng Nghymru.

“Credwn y byddai'r polisi hwn yn effeithiol o ran lleihau smygu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru hyd yn oed ymhellach ac y byddai'n gwneud cyfraniad gwirioneddol at yr uchelgais o sicrhau Cymru ddi-fwg erbyn 2030.”