Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella iechyd pobl ifanc a lleihau gordewdra

Cyhoeddwyd: 9 Mehefin 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu lansiad ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o ddatblygu syniadau newydd ar gyfer deddfwriaeth i wella iechyd pobl ifanc, ac i atal y cynnydd mewn cyfraddau gordewdra yng Nghymru.

Wedi'i lansio gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, mae'r ymgynghoriad yn edrych ar syniadau megis a ddylid cyfyngu ar werthu diodydd egni i'r rhai o dan 16 oed, a chyfyngu ar y siopau tecawê bwyd poeth ger ysgolion. 

Mae hefyd am glywed barn pobl ar gyfyngu ar hyrwyddo bwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr neu halen, gan roi terfyn ar ail-lenwi diodydd siwgr ac ehangu'r broses o gyhoeddi calorïau ar fwydlenni. 

Yng Nghymru, mae tua 1.6 miliwn o oedolion dros eu pwysau ac mae 655,000 o bobl yn ordew. Yn ogystal, mae mwy nag un o bob pedwar o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol gynradd. Amcangyfrifir bod gordewdra yn costio £6.1 biliwn y flwyddyn i'r GIG ar draws y DU. 

Yn ogystal, mae'r cynnydd yn y defnydd o ddiodydd egni sy'n uchel mewn caffein, sy'n gallu cynnwys llawer o siwgr, ymhlith pobl ifanc hefyd yn peri pryder am yr effeithiau ar eu haddysg, llesiant a'u hiechyd cyffredinol.   

Mae strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gwneud yn haws i bawb wneud dewisiadau iachach. 

Rydym yn croesawu'r ymgynghoriad hwn, sy'n rhoi cyfle i bobl rannu eu barn ar amrywiaeth o opsiynau a newidiadau i ddeddfwriaeth er mwyn helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru a chefnogi pobl i fyw bywydau iachach.  

Meddai Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Ar hyn o bryd yng Nghymru mae mwy na hanner y boblogaeth oedolion dros eu pwysau neu'n ordew ac mae dros chwarter y plant dros eu pwysau neu'n ordew erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Mae'r mesurau yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'i gwneud yn haws gwneud dewisiadau iach.”  

“Mae bod dros bwysau neu'n ordew yn cynyddu ein risg ar gyfer nifer o glefydau gan gynnwys diabetes, clefyd y galon, canser a strôc, gan arwain at iechyd gwael.  Mae gennym raglenni iechyd cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar helpu i gynorthwyo pobl i gyflawni a chynnal pwysau iach ond mae angen i ni gofio nad oes bwled hud o ran mynd i'r afael â phroblem magu gormod o bwysau, bydd angen llawer o fesurau sydd i gyd yn cyfrannu at newid ar y cyd. Mae ein hadolygiad o'r dystiolaeth yn dangos i ni y gall y mesurau hyn wneud gwahaniaeth ar lefel poblogaeth i ymddygiad ac iechyd pobl. Mae'r ymgynghoriad hwn yn eithriadol o bwysig i'n helpu i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o bobl sydd dros eu pwysau ac yn ordew ledled Cymru.”  

Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, a gynhelir tan 1 Medi 2022, ar gael yma.