Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu agor cartref newydd genomeg yng Nghymru

Cyhoeddig: 8 Rhafyr 2023

Mae cyfleuster newydd o'r radd flaenaf sy'n gartref i rai o arbenigwyr blaenllaw Cymru ym maes genomeg yn agor ei ddrysau heddiw.  

Agorodd Canolfan Iechyd Genomig Cymru/ Wales Genomic Health Centre, yn Coryton, Caerdydd, yn swyddogol ddydd Iau, 7 Rhagfyr, i wasanaethu fel conglfaen uchelgais iechyd manwl Cymru.  

Genomeg yw'r astudiaeth o wybodaeth dilyniant genetig neu epigenetig organebau, a all helpu clinigwyr i ddeall rôl genynnau yn ein hiechyd. Gall y maes ymchwil cyffrous hwn arwain at newidiadau yn ein dull iechyd cyhoeddus sy'n bosibl drwy'r defnydd o ddulliau, offer a thechnolegau newydd arloesol. 

Bydd Canolfan Iechyd Genomig Cymru yn gartref i Bartneriaeth Genomeg Cymru, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), yr Uned Genomeg Pathogen a'r Rhaglen Genomeg Iechyd Cyhoeddus, a Pharc Geneteg Cymru a fydd yn gweithio mewn labordai clinigol ac ymchwil o'r radd flaenaf a mannau clinigol pwrpasol. 

Meddai Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Sgrinio a Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gyffrous iawn ynghylch y cyfle i gydweithio'n agosach yn y cyfleuster newydd sbon hwn o ansawdd uchel, i gymhwyso ein dealltwriaeth o gyfansoddiad genetig micro-organebau a phobl i wella canlyniadau iechyd y boblogaeth yng Nghymru.”