Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi lansio'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol

Cyhoeddig: 11 Rhagfyr 2023

Mae nifer cynyddol o bobl yng Nghymru yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau presgripsiynu cymdeithasol, lle gellir eu cefnogi i gael mynediad at weithgareddau fel dosbarthiadau ymarfer corff, garddio, a grwpiau celf yn eu cymuned i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn well.  

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn derm cyffredinol sy'n disgrifio dull sy'n canolbwyntio ar y person o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol. Gall helpu i rymuso unigolion i nodi eu hanghenion eu hunain, eu cryfderau, a'u hasedau personol ac i gysylltu â'u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda'u hiechyd a'u llesiant personol.  

Gellir defnyddio presgripsiynu cymdeithasol i helpu person i wella ei lesiant corfforol, meddyliol neu gymdeithasol, a gall ddarparu continwwm o gymorth a chwarae rôl ataliol. 

Mae data diweddar yn dangos y bu cynnydd clir o flwyddyn i flwyddyn mewn atgyfeiriadau a defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol o tua 10,000 yn 2018 i 2019 i ychydig dros 25,000 yn 2020 i 2021. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod presgripsiynu cymdeithasol yn lleihau'r nifer sy'n mynd i feddygfeydd teulu 15 i 28 y cant, gyda thua 20 y cant o gleifion yn cysylltu â'u meddyg teulu ynglŷn â phroblemau cymdeithasol. 

Heddiw, lansiodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, i ddarparu set gyffredin o safonau a sicrhau bod presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddarparu'n gyson, beth bynnag yw'r lleoliad. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith a lluniodd ddwy elfen allweddol:  

  • Astudiaethau Achos Presgripsiynu Cymdeithasol, sy'n arddangos profiadau o bresgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru, o unigolion, ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol, atgyfeirwyr i bresgripsiynu cymdeithasol, a'r rhai sy'n gweithio gydag asedau cymunedol;  

  • Rhestr Termau Presgripsiynu Cymdeithasol, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru (WSSPR), Prifysgol De Cymru, sy'n ceisio egluro terminoleg a hwyluso cyfathrebu a dealltwriaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd. 

Meddai Dr Amrita Jesurasa, ymgynghorydd mewn Meddyginiaeth Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae'r dystiolaeth yn dangos bod amrywiaeth eang o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cael effaith wirioneddol ar lesiant unigolion a bydd adegau pan fydd angen cymorth ychwanegol ar bobl sydd ag amrywiaeth eang o broblemau sy'n effeithio ar eu llesiant meddyliol, corfforol neu gymdeithasol.  

“Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned i'w cynorthwyo â llawer o agweddau gwahanol ar eu bywyd. Er enghraifft, i leihau unigrwydd, rhoi mynediad at gyfleoedd iechyd corfforol neu i helpu i reoli dyledion. Drwy'r dulliau ataliol hyn, mae unigolion yn cael eu grymuso i wneud eu dewisiadau eu hunain ac ymgysylltu mwy â'u cymuned, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gallai'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol gael ei leihau drwy'r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol”.