Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pecynnau plaen, gwaharddiad ar fêps tafladwy a dim arddangosfeydd manwerthu ar gyfer fêps

Cyhoeddig: 7 Rhagfyr

Dylai'r un cyfyngiadau sy'n berthnasol ar hyn o bryd i gynhyrchion tybaco gael eu cymhwyso i farchnata, pecynnu ac arddangos e-sigaréts, yn ôl ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgyngoriad newydd.

Yn ei ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar fynd i'r afael â smygu a fepio ymhlith pobl ifanc, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi ailddatgan ei gefnogaeth gref ar gyfer codi oedran gwerthu tybaco yn y DU.

Mae'r sefydliad hefyd yn cefnogi gwaharddiad llwyr ar fêps tafladwy, gan fod cysylltiad cryf rhwng y rhain â chynnydd mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc, yn ogystal â niwed amgylcheddol clir.

Er y gall fêps helpu oedolion sy'n smygu i roi'r gorau iddi, mae cynnydd mewn fepio ymhlith y rhai nad ydynt erioed wedi smygu, yn enwedig plant a phobl ifanc, yn codi pryderon bod cwmnïau'n targedu marchnadoedd newydd ar gyfer dibyniaeth ar nicotin. Mae sicrhau na ellir marchnata cynhyrchion mewn ffyrdd sy'n apelio at blant a phobl ifanc yn hanfodol i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.

Dywedodd Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi camau gweithredu cryf i godi oedran gwerthu tybaco yn y DU, yn ogystal ag ar gyfer cyfreithiau newydd ar y ffyrdd y mae fêps yn cael eu marchnata a'u gwerthu i sicrhau eu bod yn unol â chynhyrchion tybaco.

“Rydym yn croesawu’r ffaith bod ymgynghoriad Llywodraeth y DU wedi gofyn yn benodol am becynnu ac arddangos fêps, gan ein bod yn credu'n gryf y dylai'r cynhyrchion hyn gael eu gwerthu mewn pecynnau safonol mewn lliwiau plaen heb logos, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda chynhyrchion tybaco.

“Dylai fêps gael eu storio y tu ôl i'r cownter hefyd, ac nid eu harddangos, i adlewyrchu'r dull ar gyfer cynhyrchion tybaco. 

“Mae'r mesurau hyn wedi bod yn effeithiol iawn wrth fynd i'r afael â nifer y plant a phobl ifanc sy'n dechrau smygu.”

Yn flaenorol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu cynlluniau i ganiatáu pleidlais rydd yn Senedd y DU ar godi oedran cyfreithiol smygu o un flwyddyn. 

Mae smygu yn parhau i fod yn ffactor o bwys o ran marw cyn pryd, salwch y gellir ei osgoi ac anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.  Roedd smygu yn gysylltiedig â thros 5,000 o farwolaethau a bron un o bob 20 o dderbyniadau i'r ysbyty yn y rhai dros 35 oed yng Nghymru yn 2018.

Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi dadlau o blaid gweithredu ar gyflasu fêps.  Mae hyn yn cynnwys cyfyngiadau ar gonfensiynau enwi cynhyrchion fêps, gan gynnwys rhestr o flasau disgrifiadol wedi'u diffinio'n gyfreithiol, a gwaharddiad ar flasau sy'n apelio'n arbennig at bobl ifanc.

Lansiodd Llywodraeth y DU ei ymgynghoriad o'r enw ‘Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc’ ar 12 Hydref 2023. Yn dilyn hynny, amlinellodd y Llywodraeth yn Araith y Brenin ar 7 Tachwedd ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth yn y sesiwn seneddol bresennol, gan gynnwys:

  • Cynllun i wahardd gwerthu pob cynnyrch tybaco i unrhyw yn a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009
  • Mesurau wedi'u bwriadu i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc drwy fesurau a allai gynnwys rheoleiddio cynhyrchion fepio, pecynnu ac arddangosfeydd mannau gwerthu

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth y DU i ben ar 6 Rhagfyr.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno ei ymateb yn Gymraeg ac yn Saesneg.