Neidio i'r prif gynnwy

Hyb ar-lein i ddarparu arweiniad iechyd cyhoeddus i weithwyr gofal iechyd proffesiynol

Cyhoeddig: 27 Chwefror 2024

Mae'r Tîm Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio hyb ar-lein newydd er mwyn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol â chyngor ac arweiniad ar faterion diogelu iechyd a gwneud hysbysiadau clefydau heintus. 

Mae'r hyb, sef Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan (AWARe)/Y Tîm Diogelu Iechyd (gig.cymru) hefyd yn cynnwys mynediad at fodiwlau e-ddysgu i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, am bynciau fel parodrwydd ar gyfer y gaeaf, rheoli brigiad o achosion a chynaliadwyedd. 

Mae wedi'i gynllunio i rymuso gweithwyr proffesiynol â gwybodaeth briodol fel eu bod yn gwybod pryd a sut i gysylltu â'r tîm diogelu iechyd. 

Meddai Beverley Griggs, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “bydd ein hyb ar-lein newydd yn offeryn defnyddiol iawn i weithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid eraill, gan ei fod yn darparu gwybodaeth ymarferol a hygyrch i'w cynorthwyo â rhai o'r materion sy'n eu hwynebu wrth ymdrin â chlefydau heintus a materion diogelu iechyd. 

“Yn ogystal, bydd yr hyb yn gyfle i weithwyr proffesiynol yn y sector gofal cymdeithasol i wella eu datblygiad proffesiynol drwy fodiwlau e-ddysgu sydd ar gael yn uniongyrchol o'r hyb.”