Neidio i'r prif gynnwy

Gall ymgorffori atal mewn gofal iechyd sylfaenol a chymunedol helpu i gynyddu cydnerthedd

Cyhoeddig: 22 Rhagfyr 2023

Mae pwysau cynyddol ar systemau iechyd yn sbarduno newidiadau wrth gynllunio a darparu gofal sylfaenol a chymunedol yn fyd-eang. Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a phrofiadau gwledydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu bod ymgorffori dulliau atal ac iechyd cyhoeddus yn gallu cynorthwyo gofal sylfaenol a chymunedol.

Mae'r pwysau ar ofal sylfaenol a chymunedol yn cynnwys poblogaethau sy'n heneiddio gyda galw cynyddol am ofal iechyd, heriau'r gweithlu ac anghydraddoldebau ac amddifadedd cynyddol. Ac o ganlyniad, ceir enghreifftiau cynyddol o fodelau gofal sylfaenol a chymunedol sy'n ymgorffori dulliau ataliol ac iechyd cyhoeddus, gan gymryd camau i atal clefydau a phroblemau iechyd mewn poblogaeth, a galluogi gwell hunanofal.

Mae'r adroddiad yn amlygu y gall cydweithredu ac integreiddio traws-sector gynorthwyo gofal sylfaenol a chymunedol, gan gynnwys mewn meysydd fel hybu iechyd, atal clefydau a gwyliadwriaeth. Er bod gofal sylfaenol a chymunedol yn canolbwyntio ar unigolion, mae iechyd cyhoeddus yn mynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth gyfan, felly mae integreiddio'n hanfodol. Mae symud gofal sylfaenol i'r gymuned yn flaenoriaeth ryngwladol gan y gall wella effeithlonrwydd, wrth leihau neu sefydlogi costau gofal iechyd.

Mae'r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol 47: Ymgorffori Atal mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn nodi dulliau sy'n seiliedig ar atebion a dysgu o sawl gwlad. Ymhlith y dulliau cyffredin mae integreiddio systemau digidol a rhannu data, asesiad a dadansoddiad cynhwysfawr o anghenion ac asedau iechyd poblogaethau. Roedd llwybrau integredig yn aml yn cael eu defnyddio, yn ogystal â chymhellion sy'n cynorthwyo cydweithredu.  Roedd y dulliau eraill a nodwyd yn cynnwys presgripsiynu cymdeithasol, ymarferion amlbroffesiynol, hyfforddiant ar y cyd a hyrwyddo gofal sylfaenol a chymunedol fel gyrfa ddeniadol.

Dywedodd Mariana Dyakova, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae gofal sylfaenol a chymunedol yn un o golofnau hanfodol gwasanaethau gofal iechyd sy'n cryfhau cydnerthedd systemau iechyd i baratoi ar gyfer sioc ac argyfyngau ac ymateb i'r rhain ac adfer ohonynt. Wrth i'r pwysau ar ein systemau iechyd barhau i gynyddu, mae angen clir i ymgorffori atal ac iechyd cyhoeddus o fewn hyn, gan ddarparu dull integredig.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cefnogi canolbwyntio ar gryfhau gofal sylfaenol a chymunedol, gan alw am weithredu ar draws sectorau, grymuso cymunedau lleol, annog iechyd ym mhob polisi a blaenoriaethu swyddogaethau iechyd cyhoeddus hanfodol ar hyd cwrs bywyd.

Mae ein gwaith yn amlygu cydrannau craidd strategaeth integreiddio lwyddiannus. Mae'r rhain yn cynnwys nodi poblogaethau wedi'u diffinio, cysoni mentrau ariannol i alluogi sefydliadau gofal iechyd i weithio gyda'i gilydd, gan ddefnyddio data i wella ansawdd, arweinyddiaeth effeithiol ac ymgysylltu â chleifion a gofalwyr”.

Yng Nghymru mae ein dull ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol wedi'i lunio gan Adolygiad Seneddol 2018 o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a amlinellodd weledigaeth ar gyfer gofal sy'n ataliol ac yn canolbwyntio ar y person, gan rymuso unigolion i wneud penderfyniadau am eu gofal a chael mynediad at ofal di-dor, o ansawdd uchel yn nes at y cartref. Gwnaeth yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a nodwyd yn Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol alw am fodelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol yn lleol ac yn rhanbarthol.