Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu cyllid i dîm Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn gwella gwyliadwriaeth clefydau trosglwyddadwy mewn cartrefi gofal

Cyhoeddig: 15 Tachwedd 2023

Mae'r tîm gwyddor data yng Nghanolfan Gwyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn cyllid i ddatblygu offer newydd a fydd yn helpu i amddiffyn preswylwyr cartrefi gofal yn erbyn clefydau heintus. 

Mae tua 25,000 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, ac mae'r grŵp hwn yn aml yn fwy agored i niwed o ran canlyniadau gwael o haint. Gall byw mewn lleoliad cartref cymunedol hefyd gynyddu'r risg o frigiadau o achosion, gan wneud data gwyliadwriaeth amserol ac o ansawdd yn hanfodol.  

Mae'r rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol yn fenter wedi'i chynllunio i drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru drwy ddefnydd mwy cysylltiedig a chydweithredol o ddata. Gwnaeth y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru gais am gyllid drwy ei Gronfa Data Mawr i ddatblygu offer a fydd yn gwella effeithlonrwydd a chysondeb nodi preswylwyr cartrefi gofal o ddata gwyliadwriaeth gan ddefnyddio technegau gwyddor data. 

Bydd y tîm yn defnyddio ffynonellau data presennol i ddatblygu offer cyfrifiadurol a fydd yn nodi preswylwyr cartrefi gofal mewn ffordd fwy awtomataidd, gan geisio disodli'r broses bresennol â llaw yn bennaf sy'n aneffeithlon, ac weithiau'n annibynadwy. 

 Meddai Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy: “Bydd y cyllid hwn yn galluogi ein tîm i ddatblygu offer a fydd yn gwella gwybodaeth gwyliadwriaeth ar gyfer camau gweithredu ar amrywiaeth ehangach o organebau ac ymyriadau wedi'u targedu. 

“Mae ein gwyddonwyr data Dr Mark Postans a Dr Mark Drakesmith yn arwain y datblygiad. Bydd yr offer sy'n deillio o hyn yn ffynhonnell agored i roi cyfleo i dimau y tu hwnt i ddiogelwch iechyd mewn systemau gofal iechyd i ofalu am y grŵp poblogaeth hwn yn well.”