Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu £5 miliwn i leihau anghydraddoldeb iechyd

Cyhoeddig: 19 Rhagfyr 2023

Mae £5 miliwn wedi'i ddyfarnu i brosiect partneriaeth sy'n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda'r nod o leihau anghydraddoldeb iechyd a gwella llesiant yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i alluogi Rhondda Cynon Taf i ddod yn Gydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd (HDRC).

Bydd y cydweithrediad, a arweinir ar y cyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn dod â phartneriaid o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac Interlink Rhondda Cynon Taf at ei gilydd.

Mae pob HDRC yn cael ei gynnal gan awdurdod lleol sy'n gweithio gyda phrifysgolion neu sefydliadau ag arbenigedd yn y penderfynyddion ehangach iechyd. Mae hyn yn dod â gwybodaeth llywodraeth leol ynghyd â sgiliau ymchwil o'r gymuned academaidd. Y nod yw gwella'r sail dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi mewn meysydd pwysig sy'n effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.

Bydd y cyllid newydd yn defnyddio data ymchwil o benderfynyddion iechyd lleol i dynnu sylw at sut y gall y Fwrdeistref Sirol weithio gyda'i gymunedau a'i bartneriaid i wella iechyd cyhoeddus, lleihau anghydraddoldeb iechyd, a gwneud penderfyniadau gwell sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddarparu a llywio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae penderfynyddion ehangach iechyd yn cyfeirio at y ffactorau ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant cyffredinol person, fel ansawdd aer a dŵr, ansawdd tai, mynediad at fannau gwyrdd, cyflogaeth ac amodau gwaith, addysg a llythrennedd.

Mae gan Rhondda Cynon Taf ddisgwyliad oes is ar gyfer dynion a menywod, cyrhaeddiad addysgol is a lefelau uwch o ran yfed alcohol a gordewdra o gymharu â chyfartaledd Cymru.

Mae canserau a chlefyd cylchredol yn gyson yn bryder mawr o ran marw cyn pryd yn Rhondda Cynon Taf, gyda'r gyfradd canser yr ysgyfaint yn sylweddol uwch yn yr ardal, ochr yn ochr â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) – a gellir cysylltu'r ddau â'r nifer uchel o smygwyr ar draws y fwrdeistref sirol a'r gymuned lofaol hanesyddol.

Bydd yr HDRC yn awyddus i fynd ati i weithio gyda thrigolion Rhondda Cynon Taf a bydd yn gwrando ar farn pobl a'u cynnwys yn briodol wrth lunio a chynnal ymchwil.

Meddai  Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Rydym yn falch o fod yn rhan o'r dyfarniad pwysig hwn ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 

“Bydd y bartneriaeth arloesol hon yn gweithio ar draws yr awdurdod lleol, academyddion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gryfhau'r gwaith o ddatblygu a defnyddio data, tystiolaeth ac ymchwil, i lywio gwaith RhCT yn y dyfodol, gan gyfrannu at wella iechyd a llesiant y gymuned leol.”

Meddai Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf “Mae pobl sy'n byw mewn cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf yn wynebu heriau iechyd mawr a chyfraddau uwch o amddifadedd na chyfartaledd Cymru. Rydym yn croesawu’r cyllid a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a byddwn nawr yn cydweithio i sicrhau y gallwn newid y canlyniadau ar gyfer ein cymuned leol.

“Mae gwybodaeth yn rhoi grym a chyda'r capasiti i wneud ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth y bydd yr HDCR yn ei roi i ni, byddwn yn ennill y wybodaeth sydd ei hangen arnom i lunio'r gwasanaethau sydd eu hangen neu eu heisiau ar ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

“Diolch i NIHR am roi'r pŵer i ni ddatblygu ymchwil i wella iechyd a llesiant cymunedau Rhondda Cynon Taf. Dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, byddwn yn estyn allan at drigolion i gymryd rhan yn yr HDRC - gan eu bod yn rhanddeiliaid allweddol yn y cydweithrediad hwn a byddant bob amser wrth wraidd yr hyn a wnawn.

“Gobeithio y bydd y partneriaethau rhwng y Cyngor, Prifysgol Caerdydd, Interlink Rhondda Cynon Taf, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn galluogi Cyngor Rhondda Cynon Taf i wneud gwell penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth i iechyd ein trigolion - sy'n hanfodol o ystyried y pwysau presennol ar gyllid.”

Meddai Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE: “Dylai pawb gael y cyfle i fyw bywyd iach, pwy bynnag ydynt neu lle maent yn byw.

“Drwy ganolbwyntio ar benderfynyddion ehangach iechyd fel cyflogaeth, tai, addysg a'r amgylchedd ffisegol, mae gan y cymunedau lleol rydym yn eu cefnogi gyfle gwych i gael effaith barhaol ar leihau anghydraddoldebau iechyd ac amddifadedd ehangach.

“Rydym yn croesawu'r cyllid hwn, sy'n dod ar ôl rhai blynyddoedd anodd iawn ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Fel Bwrdeistref Sirol cawsom ein taro'n galed gan Covid-19, a ddaeth ar ôl dinistr Storm Dennis.

“Mae cymunedau Rhondda Cynon Taf yn wynebu rhai o'r lefelau uchaf o amddifadedd, sydd yn ei dro yn cynyddu anghydraddoldeb iechyd ac yn lleihau disgwyliad oes. Gobeithio y gallwn, drwy'r cydweithredu hwn, helpu i wella dyfodol cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.” 

Meddai Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, "Rydym yn croesawu'r buddsoddiad mawr hwn gan NIHR, a fydd yn creu seilwaith newydd i gysylltu ymchwil â pholisi ac ymarfer, a dod ag unigolion a sefydliadau at ei gilydd gyda'r nod clir o wella canlyniadau iechyd trigolion Rhondda Cynon Taf. Mae partneriaid ar draws y cydweithrediad yn ymrwymedig i weithio'n uniongyrchol gyda dinasyddion i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd. Ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a phartneriaid i greu diwylliant ymchwil bywiog sy'n sail i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.”

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen hefyd wedi derbyn dyfarniad datblygu o'r un gronfa.

I gael rhagor o wybodaeth am Gydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd ewch i www.nihr.ac.uk.