Neidio i'r prif gynnwy

Diweddaru'r offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus gyda'r data diweddaraf

Cyhoeddwyd: 14 Rhagfyr 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu'r dangosyddion yn yr offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus.  

Wedi'i gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, diben y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn eu cael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.  

Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae:  

  • Yn y fersiwn hon rydym wedi diweddaru ein dangosyddion Arolwg Cenedlaethol Cymru, bwydo ar y fron, pwysau geni isel, beichiogi yn yr arddegau a dangosyddion marwolaethau 
  • Mae hunanladdiad yn parhau i fod yn uwch mewn dynion, a gellir dod o hyd i gyfraddau uwch hefyd mewn rhannau mwy difreintiedig o Gymru 
  • Mae smygu bron dair gwaith yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig 
  • Mae'r gyfradd unigrwydd bron bedair gwaith yn uwch ymhlith y rhai sydd wedi'u cyfyngu llawer gan anabledd, o gymharu â'r rhai nad ydynt wedi'u cyfyngu gan anabledd. 

Mae'r Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yn cael ei lunio ar ran Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy'n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae'n sail i'r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu amrywiaeth manylach o fesurau sy'n adlewyrchu'r penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant. 

https://publichealthwales.shinyapps.io/PHOF_Dashboard_Wel/