Neidio i'r prif gynnwy

Dim digon ar gyfer yr hanfodion, wrth i'r argyfwng costau byw frathu

Cyhoeddwyd: 11 Hydref 2023

Mae'r argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl i lawer o bobl yng Nghymru ac mae llawer wedi gorfod torri i lawr ar hanfodion fel bwyd a gwres i gael deupen llinyn ynghyd. 

Dyma'r canfyddiadau o un o arolygon Iechyd Cyhoeddus Cymru o effeithiau costau byw cynyddol, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mawrth 2023. 

Gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau i dros 2,000 o bobl ledled Cymru yn ymwneud â'u hamgylchiadau ariannol, a oeddent yn teimlo y gallent ymdopi'n ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw, a sut roedd yn effeithio ar eu hiechyd a'u hymddygiad o ddydd i ddydd.  

Dywedodd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr (94%) fod eu costau byw wedi cynyddu yn y chwe mis blaenorol a dywedodd 43% fod sefyllfa ariannol bresennol eu cartref yn waeth nag yr oedd chwe mis yn ôl. Dywedodd 77% o bobl eu bod naill ai'n poeni'n fawr neu'n poeni ychydig am gostau byw cynyddol. 

Gofynnwyd i'r cyfranogwyr am y newidiadau yr oeddent wedi'u gwneud i'w bywydau o ganlyniad i gostau byw cynyddol. Y newidiadau mwyaf cyffredin oedd defnyddio offer trydanol yn llai aml (70%)  a thorri i lawr ar bethau nad ydynt yn hanfodol (68%). Dywedodd 76% fod eu harferion prynu bwyd wedi newid, gan amlaf yn newid i frandiau rhatach (57%) a bwyta allan llai (53%). Nododd llawer o bobl eu bod yn gorfod defnyddio cynilion (36%) neu gynyddu'r arian y maent yn ei fenthyca (23%) o ganlyniad i gostau byw cynyddol.  Yn y cyfamser, dywedodd 44% o bobl eu bod wedi gwneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'w cartref. 

Dywedodd bron hanner (44%) y bobl fod costau byw cynyddol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a dywedodd 19% eu bod wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol. Dywedodd 22% o bobl fod costau byw cynyddol wedi cael effaith gadarnhaol ar sut mae pobl yn cefnogi ei gilydd yn y gymuned.  

Er bod y rhan fwyaf o bobl (77%) o'r farn y byddent yn gallu ymdopi'n ariannol drwy'r argyfwng costau byw, nid oedd 23% yn credu y byddent yn gallu ymdopi. Roedd y teimlad o fethu ymdopi'n ariannol yn fwy tebygol mewn rhai grwpiau poblogaeth gan gynnwys y rhai o aelwydydd incwm isel, y rhai â chyfyngiad ar weithgaredd, a'r rhai â phlant yn yr aelwyd.  

Meddai Karen Hughes, un o gyd-awduron yr adroddiad:

“Gall poeni am sefyllfa ariannol a mynd heb fwyd a chartref cynnes effeithio ar iechyd meddwl a gwaethygu cyflyrau iechyd. Canfu ein harolwg wahaniaethau amlwg o ran sut y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar boblogaethau gwahanol yng Nghymru, gyda'r rhai sydd eisoes yn fregus oherwydd incwm aelwyd isel a phroblemau iechyd hirdymor neu anableddau yn llai tebygol o deimlo eu bod yn gallu ymdopi'n ariannol ac yn fwy tebygol o adrodd am effeithiau negyddol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.” 

Meddai Rebecca Hill, Cyfarwyddwr Rhaglen Iechyd Cyhoeddus Cymru, Polisi Iechyd Cyhoeddus:

“Mae cynnydd o ran costau bwyd, ynni a hanfodion eraill yn digwydd pan fo llawer o bobl eisoes yn fregus yn ariannol, ac mae'n gwthio pobl ymhellach i galedi neu dlodi. Rydym yn gwybod bod y rhai sy'n byw mewn tlodi yn wynebu risg o iechyd gwaeth ar bob cam o'u bywyd, ac mae'r argyfwng costau byw yn cynyddu anghydraddoldebau yng Nghymru. Mae lleihau'r bwlch iechyd annheg yn hanfodol er mwyn cryfhau ein gallu i ymateb i argyfyngau heddiw a'r dyfodol.”