Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Gweledigaeth ar gyfer Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Academaidd yng Nghymru

Cyhoeddedig: 7 Awst 2023.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i greu gweledigaeth ar gyfer ymchwil iechyd cyhoeddus academaidd yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn dechrau drwy archwilio'r dirwedd ymchwil iechyd cyhoeddus yng Nghymru, cyn datblygu gweledigaeth sy'n harneisio cryfderau a chapasiti unigryw Cymru, i fynd i'r afael â'r heriau iechyd a llesiant sy'n wynebu ein poblogaeth.

Mae cam cyntaf y gwaith hwn yn defnyddio'r heriau iechyd a llesiant ar gyfer poblogaeth Cymru, a adlewyrchir yn chwe blaenoriaeth strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel man cychwyn i archwilio ehangder a chwmpas y dirwedd ymchwil iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r cam dadansoddol hwn yn cynnwys galwad agored am dystiolaeth, sy'n gofyn am wybodaeth ynghylch pob maes cryfder ymchwil gan gynnwys ceisiadau cyllido llwyddiannus, cyhoeddiadau allweddol, a chydweithio cenedlaethol/rhyngwladol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwahodd holl adrannau, is-adrannau ac unedau prifysgolion sy'n gweithio ar ymchwil sy'n ymwneud ag iechyd cyhoeddus i gwblhau'r alwad am dystiolaeth erbyn 18 Medi 2023.

Gwahoddir canolfannau academaidd, ysgolion neu unedau i gyflwyno tystiolaeth i Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy ffurflen ar-lein, ynghylch ymchwil allweddol y maent am dynnu sylw ati sydd o fewn unrhyw un o'r tri maes iechyd cyhoeddus (h.y. gwella iechyd, diogelu iechyd a gwella ansawdd gwasanaethau iechyd). 

Bydd yr ail gam, i weithio gyda rhanddeiliaid i gydgynhyrchu gweledigaeth ar gyfer ymchwil iechyd cyhoeddus academaidd yng Nghymru, yn dilyn cwblhau'r gwaith dadansoddol hwn ac yn mynd rhagddo ar ddechrau 2024.  

Mae'r prosiect hwn yn cael ei arwain gan Iain Bell, Cyfarwyddwr Gweithredol Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi'i gefnogi gan Grŵp Llywio sy'n cynnwys grŵp bach o uwch arweinwyr o Gymru a'r DU gydag arbenigedd ar draws y prif feysydd iechyd cyhoeddus.

Meddai Iain: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gefnogi'r gwaith hwn i asesu ehangder a chwmpas ymchwil iechyd cyhoeddus academaidd yng Nghymru. Wedi'i gefnogi gan Grŵp Llywio sy'n cynnwys uwch arweinwyr o Gymru a'r DU, bydd y prosiect yn arwain at ddatblygu gweledigaeth wedi'i chydgynhyrchu ar gyfer ymchwil iechyd cyhoeddus academaidd yng Nghymru, gan helpu i fynd i'r afael â'r heriau iechyd a llesiant sy'n wynebu ein poblogaeth.”

Meddai Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru “Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gymryd rhan ynghyd â rhanddeiliaid sy'n cyfrannu at ddatblygu gweledigaeth sy'n adeiladu ar gryfderau presennol ym maes ymchwil iechyd cyhoeddus academaidd yng Nghymru ac mae'n canolbwyntio ar anghenion a chapasiti o ran tystiolaeth ac ymchwil ar gyfer y dyfodol. Edrychwn ymlaen at glywed gan randdeiliaid ymchwil yng Nghymru sy'n chwarae rhan hanfodol yn y dirwedd ymchwil iechyd cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn helpu i lywio datblygiad y weledigaeth.”

Gellir gweld cwestiynau’r ‘alwad am dystiolaeth’ cyn i chi gyflwyno eich gwybodaeth yn y ddogfen pdf atodedig.