Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor cyn mynd yn ôl i'r ysgol i rieni yng Nghymru er mwyn helpu i amddiffyn yn erbyn salwch y gaeaf

Cyhoeddwyd: 6 Ionawr 2023

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn atgoffa rhieni yng Nghymru i gadw plant i ffwrdd o'r ysgol os ydynt yn sâl gyda gwres, yn dilyn cynnydd mewn salwch fel ffliw. Mae'n un o nifer o gamau syml y gall rhieni eu cymryd i amddiffyn eu plentyn a lleihau lledaeniad salwch y gaeaf pan fydd plant yn dychwelyd i'r ysgol a meithrinfeydd yng Nghymru'r wythnos nesaf. 

Mae Ffliw a Covid-19 yn lledaenu ar lefelau uchel ar hyn o bryd ac mae cynnydd mewn achosion o'r dwymyn goch hefyd yn cael ei nodi. 

Dylai plant sy'n sâl gyda thwymyn aros gartref nes eu bod yn teimlo'n well ac mae'r gwres ar ben.  Mae gwres yn dymheredd uchel. 

Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Mae hefyd yn bwysig atgoffa plant am bwysigrwydd golchi eu dwylo i osgoi lledaenu germau a dal peswch a thisian mewn hancesi papur. Dylai oedolion hefyd geisio aros gartref pan fyddant yn sâl. Os oes rhaid iddynt fynd allan pan fyddant yn sâl, mae'n syniad da gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn eraill.”

Y ffordd orau o amddiffyn yn erbyn dal ffliw y gaeaf hwn yw i'r rhai sy'n gymwys gael y brechlyn ffliw. Mae ei sgil-effeithiau yn ysgafn ac fel arfer dim ond yn para am ychydig ddyddiau. 

Gall plant gael brechlyn ffliw am ddim sy'n chwistrell drwynol syml a diogel. Mae hyn yn cynnwys:

  • Pob plentyn mewn ysgol gynradd
  • Pob plentyn ym mlynyddoedd 7 i 11 mewn ysgol uwchradd
  • Pob plentyn sy'n ddwy neu dair oed ar 31 Awst 2022
  • Hefyd plant chwe mis oed neu drosodd sydd ag unrhyw rai o'r cyflyrau iechyd hirdymor sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o ffliw.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: -