Neidio i'r prif gynnwy

Cymru'n parhau i wneud cynnydd tuag at nod Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu hepatitis B a hepatitis C erbyn 2030

Cyhoeddwyd: 26 Gorffenaff 2024

Mae canfyddiadau diweddar a nodir yn adroddiad blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n archwilio’r tueddiadau mewn perthynas ag atal, diagnosis a thrin firysau sy’n cael eu cario yn y gwaed yng Nghymru: Hepatitis B, Hepatitis C a HIV, yn dangos dirywiad nodedig mewn rhoi diagnosis o Hepatitis C, sy'n adlewyrchu cynnydd sylweddol tuag at ddileu'r bygythiad hwn i iechyd y cyhoedd.  

Mae Cymru wedi llwyddo i gyflawni 9 o 20 dangosydd Sefydliad Iechyd y Byd a ddefnyddir i olrhain cynnydd, ac mae ymdrechion parhaus i gyrraedd y targedau sy'n weddill drwy fentrau cydweithredol.  Mae gostyngiad wedi bod mewn marwolaethau oherwydd Hepatitis B a Hepatitis C, sy'n arwydd o reolaeth a thriniaeth effeithiol o'r cyflyrau hyn. 

Er bod pandemig COVID-19 wedi amharu i ddechrau ar sgrinio firysau a gludir yn y gwaed (BBV), eu diagnosio a’u trin, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y lefelau ers hynny wedi gwella, ac wedi rhagori hyd yn oed ar y lefelau cyn-bandemig ar gyfer Hepatitis B a Hepatitis C.  

Wrth i Ddiwrnod Hepatitis y Byd 2024 - sy’n digwydd ddydd Sul, 28 Gorffennaf - nesáu, mae’n ffordd ddefnyddiol o atgoffa pawb o bwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r firysau hyn a gweithredu i frwydro yn erbyn Hepatitis B a Hepatitis C yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech fyd-eang ehangach i’w dileu. 

Mae’r adroddiad, sy’n ymdrin â data hyd at ddiwedd 2023, hefyd yn nodi cynnydd bach mewn diagnosisau newydd o Hepatitis B cronig, o 249 o achosion yn 2022 i 261 yn 2023, gan amlygu’r heriau parhaus wrth frwydro yn erbyn firysau a gludir yn y gwaed yng Nghymru. Roedd 13 o achosion o Hepatitis B acíwt newydd o’u cymharu â 9 y flwyddyn flaenorol. 

Mae'r data'n dangos bod dynion yn cyfrif am gyfran sylweddol o heintiau cronig newydd, er eu bod yn cynrychioli canran lai o'r rhai a sgriniwyd. 

Mewn ymgais i wella ymhellach y broses sgrinio a chanfod yn gynnar, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog aelodau o'r cyhoedd i ddefnyddio'r gwasanaeth Profi a Phostio. Mae'r gwasanaeth profi drwy’r post hwn yn hwyluso'r gwaith o ganfod heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) a firysau a gludir yn y gwaed, gan gynnwys Hepatitis B a Hepatitis C. Drwy gymryd rhan, gall unigolion helpu i leihau lledaeniad y firysau hyn a chyfrannu at ymdrechion iechyd y cyhoedd. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at y gwasanaeth Profi a Phostio, ewch i wefan Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru: