Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd.

Cyhoeddig: 14 Medi 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus.  

Wedi'i gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, diben y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn eu cael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.  

Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:  

  • Mae canran y mamau sy'n dweud eu bod yn smygu ar adeg geni yn anghyflawn ledled Cymru ar gyfer 2021, ond mae'n amrywio o 10.8% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i bron 16% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 

  • Mae'r bwlch mewn cyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai sy'n byw gyda chyflwr iechyd hirdymor yn 2022 ddwywaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig 

  • Mae bron traean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi yn ystod 2020-2022 

  • Mae amrywiad ledled Cymru ar gyfer cyfraddau brechu yn 4 oed, gyda'r ardaloedd trefol fel Caerdydd a Chasnewydd â'r cyfraddau isaf yn ystod 2021/22  

Mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yn cael ei lunio ar ran Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy'n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae'n sail i'r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu amrywiaeth manylach o fesurau sy'n adlewyrchu'r penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant.