Neidio i'r prif gynnwy

Cyfraddau pydredd dannedd mewn plant yng Nghymru yn gostwng, ond mae materion yn parhau

Cyhoeddig: 1 Chwefror 2024

Mae arbenigwyr iechyd deintyddol cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu'r canfyddiadau o raglen archwilio iechyd deintyddol plant ddiweddar sy'n dangos bod cyfran y plant ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o bydredd dannedd wedi parhau i ostwng ers dechrau cyflwyno adroddiadau yn 2007/08. 

Mae’r adroddiad, a edrychodd ar 9,300 o blant ym mlwyddyn un mewn ysgolion (5-6 oed) ym mhob ardal o Gymru, yn dangos bod nifer yr achosion a difrifoldeb pydredd dannedd wedi gostwng, ond bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n parhau ac mae lefel y pydredd dannedd yn dal i fod yn achos pryder. 

Mae canran yr achosion – canran y plant a archwiliwyd yn yr astudiaeth sydd â dannedd wedi pydru, dannedd ar goll neu wedi'u llenwi - wedi gostwng o 47.6 y cant yn 2007/08 i 32.4 y cant yn 2022/23.  Mae'r difrifoldeb – nifer cyfartalog y dannedd fesul plentyn sydd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi – wedi gostwng o 1.98 yn 2007/08 i 1.11 yn 2022/23.   

Fodd bynnag, mae nifer yr achosion o ddannedd sydd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd lle ceir yr amddifadedd uchaf. Y gyfradd achosion yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yw 43.4 y cant (i lawr o 57.6 y cant yn 2007/08) o gymharu â 20.7 y cant (i lawr o 34.5 y cant yn 2007/08) yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf. 

Nod rhaglen genedlaethol Cynllun Gwên yw lleihau'r gwahaniaethau a welir ar draws ardaloedd yng Nghymru. Mae'n cynnwys Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yn gweithio gyda gwasanaethau blynyddoedd cynnar, meithrinfeydd ac ysgolion i helpu i ddechrau arferion da, gyda brwsio dannedd dan oruchwyliaeth ac ymweliadau farnais fflworid er mwyn helpu i amddiffyn dannedd rhag pydru. 

Mae deiet sy'n isel mewn siwgr, ynghyd â brwsio rheolaidd â phast dannedd fflworid sy'n briodol i oedran yn cael yr effaith fwyaf ar ddannedd plant a bydd yn helpu i atal pydredd. 

 

Meddai Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd mewn Iechyd Deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er ei bod yn galonogol iawn gweld y gostyngiad yng nghyfradd a difrifoldeb pydredd dannedd ymhlith plant ifanc yng Nghymru, mae'n peri pryder bod plant mewn ardaloedd llai cefnog yng Nghymru yn fwy tebygol o brofi lefelau uwch o glefydau.  

“Mewn plant o'r oedran hwn, mae'n bwysig iawn sefydlu arferion deintyddol da. Bydd rhoi deiet iach sy'n isel mewn siwgr i'ch plant a goruchwylio eu brwsio â phast dannedd fflworid ddwywaith y dydd, yn rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt. Mae angen i'r holl dimau iechyd, cymdeithasol, addysg a gofal plant a sefydliadau weithio gyda rhieni a phlant, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru, i sicrhau bod gan deuluoedd fwyd a diodydd sy'n isel mewn siwgr. 

“Mae'r arolwg hwn wedi edrych ar bron 10,000 o blant ledled Cymru, sy'n ymdrech wych gan eich timau ymroddedig yn y byrddau iechyd a'r ysgolion a gymerodd ran ledled Cymru. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu gwaith caled wrth sicrhau bod yr arolwg parhaus hwn yn rhoi darlun cynhwysfawr o ddannedd plant yng Nghymru.” 

Meddai Prif Swyddog Deintyddol Cymru, Andrew Dickenson: 

“Mae'n galonogol gweld cyfraddau gostyngol pydredd dannedd mewn plant yng Nghymru, gyda difrifoldeb a nifer yr achosion o bydredd wedi gostwng. Ond rydym am barhau i helpu plant i osgoi pydredd dannedd yn y lle cyntaf. 

“Mae atal yn allweddol yma. A bydd yn cymryd ymdrech gyfunol gan rieni, gwarcheidwaid a’r gwasanaethau a ddarperir gan ein practisau deintyddol, mewn partneriaeth â thimau mewn ysgolion a gofal plant er mwyn i blant gynnal yr iechyd y geg gorau.  

“Mae bwyta'n iach yn hanfodol i'n hiechyd y geg, felly mae sicrhau bod gan blant ddeiet siwgr isel o'u genedigaeth yn hanfodol er mwyn rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd iddynt. 

“Rydym hefyd yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn parhau i fynychu practis deintyddol i gael archwiliadau, gan y bydd hyn yn parhau'r cynnydd da a welir yn yr adroddiad hwn.”