Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithredu rhyngwladol ar iechyd yn arwain at fuddiannau i bawb

Cyhoeddwyd: 10 Mai 2023

Mae'r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (y Ganolfan) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw am wneud rhagor i gynorthwyo, cryfhau a hyrwyddo gweithgarwch iechyd rhyngwladol a byd-eang, er budd pobl yng Nghymru a thu hwnt.

Wrth i Gymru symud i gam adfer pandemig y Coronafeirws, mae adroddiad cynnydd y Ganolfan ar gyfer 2018-2022 yn rhoi manylion ynghylch sut roedd cydweithio â gwledydd eraill yn ystod yr argyfwng wedi galluogi GIG Cymru i fod yn fwy cydnerth ac yn gyfrifol yn fyd-eang. 

Meddai tîm y Ganolfan:  

“Bu'r ychydig flynyddoedd diwethaf yn gyfnod cythryblus i systemau iechyd a'r gweithlu iechyd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), ond mae'r adroddiad yn dangos y cafwyd cydweithredu rhyngwladol sylweddol er gwaethaf hyn. Mae'r enghreifftiau yn yr adroddiad yn dangos yn glir y buddiannau i bawb drwy gydweithredu iechyd byd-eang, gan gynnwys yn ystod argyfyngau. 

“Mae'r Ganolfan wedi parhau i ddatblygu a gwneud cynnydd er gwaethaf tarfu'r pandemig a gohirio ei waith dros dro yn ystod y cyfnod hwn ond mae llawer i'w wneud o hyd i ailadeiladu hyder a momentwm yn dilyn newidiadau a heriau mor enfawr. 

“O ran iechyd rhyngwladol, mae Cymru yn ffodus o gael strwythurau cryf ag egni ar lawr gwlad ac yn strategol. Dylai'r dulliau cadarnhaol sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, ynghyd ag arweinyddiaeth dda a chymorth gan y llywodraeth ganiatáu twf amgylchedd a gweithgarwch mwy cydweithredol, sy'n cael effaith ac o fudd i bawb. ” 

Mae enghreifftiau o gydweithrediad Cymru yn cynnwys: 

Mewnbwn Iechyd Cyhoeddus Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19, gan ddefnyddio adroddiadau rheolaidd Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol. Mae'r rhain yn barhaus, ac maent bellach yn edrych yn ehangach ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus a materion/bygythiadau sy'n dod i'r amlwg. 

Partneriaeth glinigol ac academaidd gydag Indonesia i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu gwasanaeth ambiwlans Indonesia, wedi'i hariannu drwy un o grantiau ymchwil y DU. Mae hyn wedi datblygu modelau mathemategol i arwain datblygiadau a darparu hyfforddiant parafeddygol clinigol. 

Cydweithrediad fferyllol Cymru gyfan gyda Malawi i wella stiwardiaeth gwrthficrobaidd a lleihau ymwrthedd gwrthficrobaidd, wedi'i ariannu gan Gymorth Datblygu Swyddogol y DU.  Datblygwyd pecyn cymorth a hyfforddiant i wella ymarfer, ac ymgysylltodd y bartneriaeth â chyrff cenedlaethol i sicrhau cysondeb â strategaethau iechyd ehangach. 

Prosiect ymchwil i hyrwyddo'r defnydd o offeryn ôl-drafodaeth i dimau clinigol ac asesu ei effaith. Roedd hyn mewn cydweithrediad â sefydliadau yn Sbaen a Norwy a chafodd ei ariannu gan grant ymchwil Ewropeaidd. Mae'r offeryn wedi'i ddefnyddio i gynorthwyo clinigwyr yn ystod y pandemig ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio mewn ugain o wledydd ledled y byd. 

Cysylltiad rhwng gogledd Cymru a Kenya sydd, wedi'i arwain gan asesiad o anghenion, wedi datblygu system adrodd gwyliadwriaeth sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau cymunedol a hyfforddiant, wedi'i ariannu gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Mae dros 60 o Wirfoddolwyr Iechyd Cymunedol wedi'u hyfforddi ac maent bellach yn rhoi gwybod am bryderon yn uniongyrchol i'r tîm iechyd cyhoeddus ardal. 

Dau adroddiad wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru yn trafod gweithgarwch iechyd rhyngwladol Cymru, gydag argymhellion i gryfhau hyn. Mae Grŵp Llywio wedi ystyried yr argymhellion ac mae cynlluniau i weithredu newid. 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rôl, cyflawniadau, ffyrdd o weithio, strwythurau cydweithredol a gweithgareddau'r Ganolfan; ac mae'n amlinellu datblygiad y Ganolfan mewn perthynas â datblygiadau byd-eang, yn y DU, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r rhain yn cynnwys heriau a chyfleoedd fel y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (‘Brexit’), pandemig COVID-19 a'r argyfwng ‘costau byw’. Mae'n dangos yr offer a ddefnyddiwyd i alluogi dysgu a rennir, hwyluso synergeddau ar draws y GIG ac ar draws sectorau, a sicrhau'r buddiannau mwyaf posibl i iechyd a llesiant pobl Cymru a thu hwnt.