Neidio i'r prif gynnwy

'Bysiau cerdded' yn  dangos cynnydd yn nifer y rhai sy'n teithio'n llesol

Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2022

Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal arolwg o'r dirwedd dystiolaeth ynghylch ymyriadau i gynyddu teithio llesol, wedi dangos bod cyflwyno mentrau ‘bws cerdded’ ymhlith y cynlluniau sy'n fwyaf tebygol o gynyddu nifer y plant sy'n cerdded i'r ysgol. 

Edrychodd yr ymchwil ar astudiaethau o ymyriadau a oedd wedi digwydd yn y DU ac yn rhyngwladol, asesu eu heffeithiolrwydd, a thynnu sylw at yr hyn i'w ystyried nesaf os yw gwneuthurwyr polisi yn bwriadu gweithredu ymyriad tebyg.  

Mae bysiau cerdded yn cynnwys rhieni gwirfoddol sy'n hebrwng grwpiau o blant wrth iddynt gerdded i'r ysgol, ac mae'r mentrau hyn wedi cael eu gweithredu mewn amrywiaeth o ardaloedd gwahanol, gyda'r holl astudiaethau a archwiliwyd o blaid y gweithgareddau. 

Yn ogystal, mae'r ymchwil wedi dangos bod cynyddu addysg a hyrwyddo cyfleoedd teithio llesol wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl sy'n dewis teithio ar feic neu gerdded. 

Ystyriwyd cynnydd mewn mesurau addysgol, fel darparu pecynnau gwybodaeth, a hyfforddi cydlynwyr eco-deithio, ynghyd â gweithgareddau marchnata fel digwyddiadau dathlu a theithiau cerdded tywysedig. 

Roedd prosiectau llwyddiannus eraill yn cynnwys ymgyrchoedd cenedlaethol yn y cyfryngau i dargedu gweithwyr a'u hannog i gerdded yn hytrach na gyrru, a mentrau amlweddog a weithredwyd ar draws tref neu ranbarth i gynyddu beicio. 

Meddai Amy Hookway, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Edrychodd ein hymchwil ar 87 astudiaeth o ymyriadau gwahanol i hyrwyddo teithio llesol.   

“Gwnaethom asesu'r dystiolaeth o effeithiolrwydd, ansawdd yr ymchwil, a'r cyffredinoli – p'un a yw'r ymyriad yn addas i'w weithredu yng Nghymru.

“Bydd angen cyd-destun pellach ar yr ymyriadau a nodwyd gennym-ymchwil benodol i sut y gellir eu cymhwyso yng Nghymru, ond mae'r adroddiad hwn yn offeryn defnyddiol i wneuthurwyr polisi wrth iddynt edrych ar ymyriadau posibl yn y maes hwn.” 

Mae'r crynodeb o dystiolaeth pwnc teithio llesol yn fath newydd o gynnyrch a grëwyd gan y gwasanaeth tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn hynny o beth, byddem yn croesawu unrhyw adborth ar ddyluniad a defnyddioldeb y cynnyrch. Dylid anfon adborth i evidence.service@wales.nhs.uk.