Neidio i'r prif gynnwy

Byddai mwyafrif y bobl yng Nghymru yn mynychu hyfforddiant gwyliwr trais pe bai'n cael ei gynnig.

Yn arolwg diweddaraf panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dywedodd 6 o bob 10 o bobl y byddent yn debygol (38 y cant) neu'n debygol iawn (23 y cant) o fanteisio ar y cynnig o hyfforddiant gwyliwr trais wyneb yn wyneb pe bai'n cael ei gynnig.

Nod hyfforddiant gwyliwr trais yw grymuso pobl i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau i gamu i mewn yn ddiogel ac ymateb os ydynt yn dyst i sefyllfa a allai fod yn dreisgar neu os oes ganddynt bryderon am y sefyllfa drwy reoli'r amgylchedd, cynnig cymorth i'r dioddefwr a/neu alw ar eraill i helpu. Ni ddylai ymyrryd yn ddiogel mewn sefyllfa fod yn wrthdrawol na chynyddu'r risg o drais i naill ai'r dioddefwr na'r gwyliwr.

Dywedodd 37 y cant o'r ymatebwyr eu bod wedi bod yn dyst i ryw fath o drais dros y 12 mis diwethaf. Y math o drais a welwyd fwyaf o'r rhestr a gyflwynwyd oedd ymddygiad ymosodol geiriol rhwng plant a phobl ifanc (23 y cant), wedi'i ddilyn gan aflonyddu rhywiol tuag at fenywod a merched (12 y cant), cam-drin domestig (9 y cant) a thrais corfforol rhwng plant a phobl ifanc (9 y cant).

Gofynnodd yr arolwg i bobl pa gamau gweithredu amrywiol y byddent yn debygol o'u cymryd pe baent yn cerdded drwy barc ac yn dyst i berson ifanc yn dioddef ymosodiad corfforol gan berson ifanc arall. Yr ymatebion uchaf oedd dweud wrth y person i roi'r gorau iddi a gofyn i'r dioddefwr a yw'n iawn (64 y cant) a rhoi gwybod i'r heddlu (54 y cant). Mae'r rhain yn ddwy enghraifft allweddol o sut y gall pobl helpu.

Fodd bynnag, canfu'r arolwg fod llawer o bobl yn teimlo nad oedd ganddynt yr hyder a/neu'r sgiliau i ymyrryd mewn trais, a hwn oedd yr ateb uchaf ar gyfer cam-drin domestig (o'r saith math o drais yr holwyd amdano). Dim ond 26 y cant o bobl oedd yn teimlo y byddai ganddynt yr hyder a'r sgiliau i wneud rhywbeth am gam-drin domestig pe baent yn dyst iddo, a dywedodd 27 y cant nad oedd ganddynt yr hyder na'r sgiliau (roedd gan 27 y cant yr hyder ond nid y sgiliau ac  roedd gan 16 y cant y sgiliau ond nid yr hyder). I'r gwrthwyneb, roedd 45 y cant yn teimlo bod ganddynt yr hyder a'r sgiliau i ymyrryd pe baent yn gweld achos o gam-drin pobl hŷn - y ganran uchaf ar draws y senarios y gofynnwyd amdanynt; gyda 23 y cant yn dweud bod ganddynt yr hyder ond nid y sgiliau, 11 y cant yn dweud bod ganddynt y sgiliau ond nid yr hyder, ac 17 y cant yn dweud nad oedd ganddynt y naill na'r llall.

Meddai Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer ACE, Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais:

 “Mae gan bawb ran i'w chwarae wrth atal trais, ac felly mae'n hanfodol cefnogi pobl i weithredu'n ddiogel pan fyddant yn dyst i sefyllfa dreisgar neu os bydd ganddynt bryderon am hynny.

“Mae gwyliwr yn gallu helpu i leihau'r risg o drais drwy rywbeth mor syml â pheidio â chwerthin am jôc misogynistaidd. Mae gwneud hyn gan bwyll yn herio credoau problemus sydd gan berson. Mae agweddau a chredoau problemus yn sail i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol - mae'n ymwneud ag ymyrryd yn gynnar ac yn ddiogel i atal yr ymddygiad rhag gwaethygu ymhellach.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gyllido, datblygu a chyflwyno cynllun peilot hyfforddi ymyriad gan wyliwr Cymru gyfan a fydd yn cael ei gyflwyno i bobl ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys cynnig hyfforddiant i hyrwyddo rhaglen ymyriad gan wyliwr sy'n rhag-gymdeithasol a gwybodus, a fydd yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag ymgyrchoedd cyfathrebu sefydledig Llywodraeth Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).  Nod y fenter yw creu newidiadau gwirioneddol a pharhaol o ran agweddau cymdeithasol tuag at VAWDASV. Mae'r gyfres o hyfforddiant yn cael ei datblygu ar hyn o bryd a bydd ar gael tuag at ddiwedd 2023.

Meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: “Rydym am wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, ac mae'r cynllun peilot arloesol newydd hwn yn cefnogi ein nod drwy ddatblygu sgiliau mewn ymgysylltu diogel gan wyliwr.

“Rydym am sicrhau bod gan bobl yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fynd ati'n hyderus i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol neu ymateb i hyn. Mae'r cynllun peilot hefyd yn cefnogi ein nod o newid agweddau, mynd i'r afael â normau o ran rhywedd a gwrywdod gwenwynig, creu newid diwylliant, a hyrwyddo ymhellach bod pob math o drais yn erbyn menywod yn annerbyniol.

“Mae gan ein darparwyr hyfforddiant, Kindling Transformative Interventions, yn ogystal â'u partneriaid, amrywiaeth eang o brofiad yn y maes hwn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y canlyniadau.”

Ymatebodd 1,076 o aelodau panel i'r arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2023, a ofynnodd i drigolion Cymru (16 oed a throsodd) am eu barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd fel rhestrau aros y GIG, tai, gwyliwr trais, llesiant meddyliol, a gofal sylfaenol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o'r panel, cofrestrwch yma.