Neidio i'r prif gynnwy

Annog brechu cyn y bydd y tymor ffliw ar ei anterth

Cyhoeddig: 10 Tachwedd 2023

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog y rhai sy'n gymwys i gael eu brechlyn ffliw cyn i'r gwaethaf o dymor ffliw'r gaeaf ddechrau. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad mwyaf posibl yn erbyn ffliw, mae angen i bobl gael eu brechu ychydig wythnosau cyn i'r tymor ffliw ddechrau – mae fel arfer yn dechrau tua dechrau mis Rhagfyr. Bydd brechu yn helpu i'w hamddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd pan ddisgwylir i'r achosion o ffliw gyrraedd eu hanterth.

Mae dros hanner miliwn o bobl eisoes wedi'u brechu rhag ffliw yng Nghymru hyd yma eleni. Dylai pobl sy'n gymwys ddod ymlaen i gael eu brechlynnau gaeaf cyn gynted â phosibl. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau ar gael gan eich bwrdd iechyd lleol.

Mae rhieni plant 2 a 3 oed yn cael eu hannog yn arbennig i drefnu apwyntiad gyda'u meddyg teulu i gael eu plentyn wedi'i frechu. Gall plant ifanc ledaenu ffliw yn hawdd iawn i aelodau mwy agored i niwed o'r teulu a'r gymuned. Gallant hefyd ddioddef symptomau annymunol eu hunain ac os byddant yn dal ffliw gall arwain at heintiau eilaidd fel broncitis a niwmonia.

Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael y brechlyn fel chwistrell drwynol gyflym a di-boen, sy'n effeithiol iawn wrth amddiffyn yn erbyn y feirws. Mae brechlynnau ffliw yn ddiogel iawn ac yn syml i'w rhoi i blant. Mae pryder o hyd y gallai plant na ddaethant i gysylltiad â'r feirws ffliw rhwng 2020-2022, pan oedd llai o gymysgu cymdeithasol, fod yn arbennig o agored i niwed.

Mae'r rhai sydd o dan 65 oed ac mewn grŵp risg clinigol (er enghraifft, y rhai sydd â diabetes, sydd â phroblem gyda'r galon, yr afu/iau neu broblemau anadlu) hefyd yn cael eu hannog i ddod ymlaen i gael eu brechlyn ffliw. Mae ffliw a Covid-19 yn salwch anadlol sy'n ffynnu yn y gaeaf. Cael eich brechu yw'r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn clefyd difrifol.

Mae rhaglen pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref hefyd yn fyw. Mae pawb dros 65 oed ymhlith y rhai sy'n cael cynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda'r feirws.

Gyda phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu COVID-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl a diogelu'r GIG y gaeaf hwn.

Fel yr esbonia Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Gall ffliw fod yn ddifrifol. Mae'r ifanc iawn, y rhai sydd â chyflwr iechyd a'r hen iawn yn arbennig o agored i niwed. Wrth i'r tywydd oeri, mae feirysau fel ffliw yn lledaenu'n haws. Nid oes neb eisiau bod yn sâl dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd felly mae'n werth cael eich brechlyn.

“Mae unrhyw sgil-effeithiau o'r brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir. Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda ffliw neu COVID-19 yn cael ei lleihau'n fawr drwy frechu, ac mae'r risgiau o ledaenu'r feirysau hyn yn lleihau hefyd. Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunan ac eraill y gaeaf hwn yn erbyn salwch difrifol.”

I hyrwyddo'r brechiadau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n annog y rhai sy'n gymwys i “gael haen ychwanegol o amddiffyniad” yn erbyn salwch difrifol y gaeaf hwn drwy gael y brechlynnau ffliw a COVID-19. Mae'r ymgyrch yn cael ei chynnal gyda chynnwys digidol a chymdeithasol yn ogystal ag estyn allan i randdeiliaid.

Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i'r heintiau. Mae hefyd yn bwysig iawn bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu'n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain yn cael eu brechlynnau er mwyn helpu i leihau lledaeniad.

I helpu i atal ffliw a feirysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa.’

I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys a sut i gael y brechlynnau, ewch i:

Brechlyn ffliw a phigiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)