Neidio i'r prif gynnwy

Annog brechiad MMR ymhlith pryder cynyddol am y frech goch

Cyhoeddig: 5 Chwefror 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu'n llawn yn erbyn y frech goch ac wedi cael pob imiwneiddiad yn ystod plentyndod. Daw hyn ymhlith rhybuddion y gallai brigiadau o achosion o'r frech goch ddigwydd yn amlach oni bai bod camau'n cael eu cymryd i gynyddu brechu ar gyfer y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR). 

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent yn 12 mis oed a'r ail ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.  Nid oes angen i rieni plant nad ydynt wedi cyrraedd yr oedran i gael eu hail ddos wneud unrhyw beth. 

Mae symptomau'r frech goch yn cynnwys brech goch neu frown nodweddiadol a allai fod yn fwy anodd ei gweld ar groen tywyllach.  Mae'r frech yn dilyn twymyn, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a dylai plant sydd â'r symptomau hyn gael eu cadw gartref o'r ysgol, y feithrinfa neu leoliadau gofal plant eraill, ac i ffwrdd o bobl sy'n agored i niwed. 

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ddydd Llun, 5 Chwefror, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru Syr Frank Atherton ei bod yn hanfodol bod canran y rhai sy'n cael cwrs llawn (dau ddos) o'r brechlyn MMR yn cynyddu i 95 y cant, sef y targed a bennwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, i ddiogelu cymunedau Cymru rhag brigiad o achosion. Gydag achosion o'r pas hefyd ar gynnydd yng Nghymru, mae Syr Frank hefyd yn annog yr holl fenywod beichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau pertwsis (y pas). 

Meddai Syr Frank: “Mae angen i ni sicrhau bod y rhai sy'n wynebu risg yn ein cymunedau'n cael eu hamddiffyn yn erbyn heintiau feirysol a allai fygwth bywyd fel y frech goch a'r pas. 

“Gall y frech goch achosi i blant fynd yn sâl iawn a bydd rhai sy'n ei dal yn dioddef cymhlethdodau sy'n newid bywyd. Gall rhieni amddiffyn eu plant drwy wirio eu bod wedi'u brechu'n llawn a lle nad ydynt, trefnu'r brechiad cyn gynted â phosibl. 

“Ni all babanod o dan un oed dderbyn y brechlyn.  Felly mae'n hanfodol bod pawb sy'n gymwys yn cael eu brechu'n llawn.  Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y frech goch ac yn helpu i amddiffyn ein plant ieuengaf.” 

Meddai Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion yw drwy frechu.  Rydym yn annog rhieni nad yw eu plant wedi cael dau ddos o MMR fel y'i cynigir i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddygfa er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn. Os nad yw plant yn ddigon hen i gael eu hail ddos, nid oes angen iddynt gael hyn yn gynharach na'r hyn a drefnwyd. 

“Ar yr un pryd, rydym hefyd yn gweld adfywiad o'r pas eleni. Mae'r pas yn heintus iawn ac mae'n cael ei ledaenu drwy anadlu defnynnau bach yn yr aer o beswch a thisian pobl eraill. Babanod o dan chwe mis oed sy'n wynebu'r risg fwyaf. Gall fod yn ddifrifol iawn ac arwain at niwmonia a niwed parhaol i'r ymennydd. Mae babanod ifanc sydd â'r pas yn wynebu risg o farw o'r clefyd. 

“Byddem yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu cynnig brechu pan gaiff ei roi, neu i ofyn i'w meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd os ydynt yn credu nad ydynt efallai wedi ei gael.”