Neidio i'r prif gynnwy

Amddiffynnwch eich plentyn yn erbyn risg polio

Cyhoeddwyd: 24 Hydref 2022

Mae rhieni plant o dan bump oed yng Nghymru yn cael eu hannog i sicrhau bod eu plentyn wedi cael ei frechiadau cyfredol ar ôl canfod feirws polio yn nŵr gwastraff y DU.

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn pryderu am ‘fygythiad deuol’ gostyngiad yng nghanran y rhai sy'n cael eu brechu, a throsglwyddiad posibl y feirws yn y DU.

Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod canran y rhai sydd wedi cael y brechiad ‘6 mewn 1’ ar gyfer polio a chlefydau eraill wedi gostwng yn ystod y pandemig ac mae bellach wedi gostwng i 94.0 y cant, gan adael miloedd o blant heb eu hamddiffyn.

Cafodd feirws polio ei nodi mewn gwyliadwriaeth dŵr gwastraff yn Llundain ym mis Mehefin 2022, er nad oes unrhyw achosion o'r clefyd wedi'u cadarnhau yng Nghymru, na'r DU.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl â feirws polio yn dangos unrhyw symptomau ac ni fyddant yn gwybod eu bod wedi'u heintio gan eu bod wedi'u hamddiffyn yn erbyn clefyd difrifol gan y brechlyn.  I eraill gall achosi parlys dros dro neu barhaol, a gall fygwth bywyd.

Cafodd polio ei ddileu yn Ewrop yn 2003, ac roedd yr achos diwethaf o bolio yn y DU yn 1984. 

Meddai Dr Christopher Johnson, Pennaeth Dros Dro'r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Er bod risg polio yn isel ar hyn o bryd, mae hyn oherwydd ymdrechion iechyd cyhoeddus sylweddol yn yr ugeinfed ganrif i fynd i'r afael â'r clefyd drwy raglenni brechu.

“Mae polio yn haint feirysol difrifol, ac mae'n peri cryn bryder bod tystiolaeth o drosglwyddo'r haint yn digwydd yn y DU.  Diolch byth, nid oes unrhyw un eto wedi cyflwyno gyda symptomau difrifol o'r clefyd.  Os byddwn yn gweithredu'n gynnar ac yn cymryd camau syml i sicrhau bod ein plant wedi'u brechu'n llawn, gallwch amddiffyn ein cymunedau yng Nghymru, ac atal y cyflwr hwn a allai beryglu bywyd rhag dychwelyd.

“Os oes gennych blentyn o dan bump oed, gwiriwch eu cofnod iechyd plentyn personol, sydd weithiau'n cael ei alw'n ‘llyfr coch’.  Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'ch meddygfa i wirio a yw brechiadau polio eich plentyn yn gyfredol. 

“Os nad ydynt yn gyfredol, trefnwch apwyntiad gyda'ch meddygfa i gael eich brechu am ddim gan y GIG.”

Meddai Kripen Dhrona, Prif Weithredwr Cymrodoriaeth Polio Prydain:

"Mae polio yn glefyd dinistriol, sy'n cyfyngu ar fywyd, a hyd yn oed os bydd person yn ei ddal a heb ddangos unrhyw symptomau ar unwaith, gall godi ei ben flynyddoedd yn ddiweddarach.

“Rwy’n siarad â goroeswyr polio bob dydd ac mae llawer yn nodi poen sy'n gwaethygu, mwy o barlys, rhagor o wendid cyhyrau yn eu breichiau, coesau, dwylo a thraed, anawsterau anadlu, blinder eithafol ac anoddefgarwch i oerni. Mae syndrom ôl-polio (PPS) yn broblem gynyddol a gall daro goroeswr polio ar unrhyw adeg.

“Mae ein haelodau wedi'u syfrdanu a'u dychryn gan y newyddion bod polio wedi'i ganfod yn y DU a byddent yn dadlau'n angerddol ag unrhyw riant, i sicrhau bod eu hanwyliaid yn cael eu brechu. Ni chawsant y cyfle pan oeddent yn ifanc. Pe baent wedi cael y cyfle, byddent wedi gallu cymryd rhan mewn chwaraeon, rhedeg o amgylch gyda'u ffrindiau a byw bywyd egnïol hefyd."

Yng Nghymru, rhoddir y brechlyn polio i blant yn:

  • 8, 12 ac 16 wythnos oed fel rhan o'r brechlyn 6 mewn 1
  • 3 oed, 4 mis fel rhan o'r pigiad atgyfnerthu cyn ysgol 4 mewn 1 (DTaP/IPV)
  • 14 oed fel rhan o'r pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 (Td/IPV) i bobl ifanc yn eu harddegau

Mae angen y pum brechiad hyn arnoch i gael eich brechu'n llawn yn erbyn polio.

Mae canran y rhai sy'n cael y brechlyn ‘6 mewn 1’ yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 92.1 y cant (Caerdydd a'r Fro) i 97.1 y cant (Cwm Taf Morgannwg), ac yn ôl awdurdod lleol o 86.8 y cant (Sir Ddinbych) i 98.0 y cant (Pen-y-bont ar Ogwr).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno ymgyrch cyfryngau cymdeithasol wedi'i thargedu at rieni plant o dan bump oed i'w hannog i sicrhau bod eu plentyn yn cael ei frechu'n llawn.

Cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ar 22 Mehefin ei bod wedi canfod feirws polio math 2 (VDPV2) ‘yn deillio o frechlyn’ mewn samplau o garthion a gasglwyd o Waith Trin Carthion Beckton yn Llundain.

Mae feirws polio sy'n deillio o frechlyn yn fath o feirws polio sydd wedi'i ddogfennu'n dda sydd wedi mwtadu o'r straen a oedd wedi'i gynnwys yn wreiddiol yn y brechlyn polio drwy'r geg.