Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion Cydraddoldeb Strategol – Ymgynghoriad cyhoeddus yn agor 

Cyhoeddedig: 31 Gorffennaf 2023

Fel sefydliad iechyd y cyhoedd, rydym am i gynhwysiant fod yn rhan o bob agwedd ar y gwaith rydym yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru.   

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol – sy’n nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau – yn dod i ddiwedd ei gylch pedair blynedd.  

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cynnwys staff a rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu rhai amcanion drafft i fynd â ni rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2028. 

Daeth chwe thema i'r amlwg o'r gweithdai. Sef: 

  • Ein Gweithlu, Bwrdd a Phwyllgorau 

  • Gwrando ar ein pobl a'u deall 

  • Cyflog teg 

  • Diwylliant ac arweinyddiaeth 

  • Data a systemau 

  • Mynediad i'n gwasanaethau a'n hamgylchedd 

Rydym nawr yn lansio ymgynghoriad gyda’r cyhoedd am dri mis.  

Gweld y ddogfen ymgynghori 

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 1 Tachwedd 2023

Pan fydd yr holl ymatebion wedi'u derbyn, cânt eu hadolygu a'u datblygu'n amcanion terfynol. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2024.  

I gael rhagor o wybodaeth am ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol, cysylltwch â Sarah Brewer, Pennaeth Profiad Gweithwyr: Sarah.Brewer@wales.nhs.uk neu Amy Burgess, Rheolwr Ymgysylltu a Chydweithio: Amy.Burgess4@wales.nhs.uk