Neidio i'r prif gynnwy

Adnodd newydd yn tynnu sylw at effeithiau newid yn yr hinsawdd

Cyhoeddwyd: 2 Tachwedd 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw effeithiau.

Wedi'i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae'r ffeithluniau'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd, y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt a rhai o effeithiau allweddol iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd a'r grwpiau poblogaeth hynny y gellid effeithio arnynt. Sef:

  • Pobl – Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bawb, ond bydd yr effeithiau'n cael eu teimlo'n anghymesur gan rai grwpiau. Mae'r ffeithlun hwn yn amlygu effeithiau iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd ar grwpiau poblogaeth gwahanol gan gynnwys plant a phobl ifanc; oedolion hŷn; pobl anabl a chyflyrau iechyd hirdymor a phobl sy'n byw ar incwm isel. Mae cynllunio addasu effeithiol yn cynnwys meddwl am grwpiau gwahanol a sut yr effeithir arnynt.
  • Lleoedd – Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar iechyd a llesiant yn y mannau lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae. Mae angen mwy o weithredu ar gyfer mwy o wres yng Nghymru, ac mae'r ffeithlun hwn yn ceisio tynnu sylw at leoedd lle mae angen cynlluniau er mwyn addasu i dymheredd uwch gan gynnwys: gweithleoedd; ysgolion; cartrefi; ysbytai a chartrefi gofal.
  • Bwyd – mae maeth da yn hanfodol ar gyfer twf a datblygiad iach mewn plant, cynnal iechyd pan yn oedolion a lleihau'r risg o glefydau fel canser. Mae'r ffeithlun hwn yn trafod effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddiogelwch bwyd a bwyta'n iach.
  • Natur ac iechyd – Mae'r amgylchedd naturiol yn cefnogi iechyd a llesiant y boblogaeth, o'r aer y mae pobl yn ei anadlu, i'r bwyd sy'n cael ei fwyta, treulio amser cymdeithasol, egnïol a gorffwys mewn mannau naturiol gwyrdd a glas.  Mae'r ffeithlun hwn yn crynhoi manteision natur i iechyd a llesiant corfforol, cymdeithasol a meddyliol, a hefyd yn rhoi rhai syniadau ar gyfer camau gweithredu ar sut y gall pawb ofalu am natur.

Meddai Nerys Edmonds, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein hiechyd a'n llesiant yn dibynnu ar adnoddau naturiol ar gyfer yr aer rydym yn ei anadlu, y bwyd ar ein plât, cartrefi diogel a'r lleoedd a'r mannau rydym yn byw ynddynt ac yn eu mwynhau gyda'n gilydd. Newid yn yr hinsawdd yw'r risg fawr i iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd naturiol rydym yn dibynnu arno yn ystod y ganrif hon. Fel y sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol yng Nghymru, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru swyddogaeth graidd i rannu arbenigedd ac adnoddau i amddiffyn poblogaeth Cymru rhag haint difrifol ac effeithiau iechyd problemau amgylcheddol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd. 

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo yn ei gynllun hirdymor i weithio gyda'n partneriaid i baratoi ar gyfer effaith ddisgwyliedig ac annisgwyl newid yn yr hinsawdd yng Nghymru ac ymateb i hyn. Fel rhan o’n cyfraniad, mae'r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd (WHIASU) wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau partner gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Adfywio Cymru a Llywodraeth Cymru, ar Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru. Mae'r ffeithluniau'n rhan o'r gwaith hwn sy'n mynd rhagddo a'i nod yw sicrhau bod gan sefydliadau a Chyrff Cyhoeddus yng Nghymru y dystiolaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynllunio ar gyfer yr effeithiau iechyd a llesiant ar bobl a chymunedau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd ac ymateb hyn.”

I weld y ffeithluniau: